Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Amdanom ni

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yn cynnal y Rhaglenni Iechyd Gwenyn ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru yng Nghymru a Lloegr. Bu'r Uned Wenyn Genedlaethol yn ymwneud â rheoli plâu a chlefydau gwenyn, yn ogystal â darparu hyfforddiant a lledaenu gwybodaeth i wenynwyr, ers dros 60 mlynedd. Mae'r tîm presennol o 80 o bobl yn cynnwys diagnosteg labordy, staff cefnogi rhaglenni, personél ymchwil a 60 o Arolygydd Gwenyn sy'n gweithio gartref a reolir gan yr Arolygydd Gwenyn Cenedlaethol, sef pennaeth gwasanaethau archwiliadau maes.

Mae'r UWG yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig ar gyfer rhoi cyngor a gwneud ymchwil mewn perthynas ag iechyd gwenyn ac mae'n defnyddio, fel sail, Lawlyfrau Profion Diagnostig Safonol yr Office International des Epizooties (OIE) ar gyfer diagnosis mewn labordy. Mae'r UWG hefyd yn defnyddio'r arbenigedd gwyddonol amrywiol a helaeth sydd ar gael ym mhob rhan o gwmni Fera Science Limited ac, yn fwy cyffredinol, gyda Phrifysgolion a Sefydliadau y mae'n cydweithio â nhw, yn y wlad hon a thramor, er mwyn cyflawni'r gwaith ar Iechyd Gwenyn, er enghraifft:

  • Bioleg foleciwlaidd;
  • TG a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i ddatblygu BeeBase;
  • Entomoleg;
  • Ecoleg;
  • Geneteg;
  • Ystadegau a gwaith modelu;
  • Gwyliadwriaeth genedlaethol a rhyngwladol;
  • Newid yn yr hinsawdd a defnydd tir;
  • Dadansoddi'r Risg o Blâu ac effeithiau economaidd;
  • Rhywogaeth oresgynnol anfrodorol; 
  • Gwyddorau cymdeithasol.

Rydym yn darparu rhaglen archwilio gwenynfeydd, gwasanaethau diagnostig, ymgynghori ac ymchwil a hyfforddiant a chyngor helaeth i Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, mentrau masnachol a gwenynwyr. Mae'r gwasanaethau hyn yn cyfrannu at rôl yr UWG i ddiogelu gwenyn mêl, sy'n bwysig o ran peillio cnydau a phlanhigion gwyllt, rhag bygythiadau megis plâu, clefydau a niwed amgylcheddol difrifol. Rydym yn cynnal digwyddiadau hyfforddi arbenigol sy'n ymdrin â llawer o agweddau ar wenyna, o dechnegau Rheoli Plâu Integredig (IPM) i adnabod a rheoli clefydau sydd oll yn cwmpasu ethos o hyrwyddo hwsmonaeth dda. Am ragor o wybodaeth am gylch gwaith yr UWG, darllenwch y Cynllun Gwenyn Iach. Rydym hefyd darparu cymorth i Lywodraeth yr Alban a'i Harolygwyr ac, ym mis Mehefin 2010, cafodd y wybodaeth am raglen archwiliadau'r Alban ei chynnwys hefyd yn ein cronfa ddata sydd wedi ennill gwobrau.

At hynny, mae rhaglen ymchwil dreigl gynhwysfawr wedi'i hintegreiddio yn yr UWG sy'n cynnwys datblygu gwiddonladdwyr, cadw golwg ar nythfeydd sy'n cael eu colli ledled yr UE ac economeg a bioleg peillio. Rydym yn bartner yn y Fenter Pryfed Peillio (IPI) ac rydym yn gwneud ymchwil flaenllaw i systemau sy'n modelu epidemioleg clefydau a fydd yn ei gwneud yn bosibl i nythfeydd gwenyn mêl gael eu rheoli'n well yn y dyfodol. Hefyd, gall ein staff labordy ddefnyddio technegau moleciwlaidd uwch i nodi mathau penodol o facteria, a fydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae clefydau mag difrifol yn lledaenu. Caiff pob un o'n prosiectau eu cefnogi gan y 150 o nythfeydd gwenyn mêl a reolir a staff gwenynfeydd hyfforddedig sy'n gweithio drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod gan yr Uned Wenyn Genedlaethol stociau mawr ac iach o wenyn bob tymor.

Ym mis Hydref 2014, cafodd yr UWG ei rhannu'n ddwy ran; arhosodd pob aelod o staff a oedd yn ymwneud â gwaith Labordy ac Ymchwil yn y fenter fasnachol newydd ei ffurfio, Fera Science Limited, tra symudodd yr ail hanner i'r Asiantaethau Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n perthyn i'r Llywodraeth. Mae APHA yn uno'r hen Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) â staff yr Arolygiaeth Gwenyn, staff Technegol a staff Cymorth Rhaglenni'r UWG, yr Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau (PHSI), y Grŵp Amrywogaethau a Hadau Planhigion (PSV) a'r Arolygiaeth Organebau a Addaswyd yn Enetig. Cenhadaeth APHA yw ‘diogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a'r economi’ ac mae ei chyfrifoldebau fel a ganlyn:

  • Nodi a rheoli clefydau a phlâu endemig ac egsotig sy'n bodoli eisoes a rhai newydd mewn anifeiliaid, planhigion a gwenyn;
  • Ymchwil wyddonol mewn meysydd megis clefydau bacteriol, feirysol, prion a pharasitig a brechlynnau, a diogelwch bwyd; 
  • Sicrhau safonau lles uchel mewn anifeiliaid fferm;
  • Hwyluso masnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid; 
  • Diogelu bywyd gwyllt mewn perygl drwy drwyddedu a chofrestru; 
  • Rheoli rhaglen sy'n cynnwys archwilio gwenynfeydd (gwenyn), diagnosteg, ymchwil a datblygu, hyfforddiant a chyngor; 
  • Rheoleiddio'r gwaith o waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ddiogel er mwyn lleihau'r risg y bydd sylweddau a allai fod yn beryglus yn ymuno â'r gadwyn fwyd.

Mae gan Arolygwyr Anifeiliaid, Iechyd Planhigion a Gwenyn hanes da o gydweithio pan fydd achosion brys o glefydau a bydd hyn yn haws pan fyddant yn rhan o'r un sefydliad. Mae'r Asiantaeth yn parhau i gydweithio â'r UWG er mwyn ei helpu i gyflawni ei hamcanion o dan y Cynllun Gwenyn Iach.

Gwenyn yn hedfan trwy camri, disgyn ar y fynedfa a cherdded i mewn i'r cwch

Cyfrinachedd a Thrin Data

Mae ein rhwymedigaethau i ddiogelu preifatrwydd unigolion (e.e. o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)) yn ein hatal rhag cyhoeddi lleoliad gwenynfeydd â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn uniongyrchol mewn ffordd a allai ddatgelu pwy yw'r gwenynwyr dan sylw. Fodd bynnag, rydym yn annog pob gwenynwr y mae clefydau yn effeithio ar eu gwenyn yn gryf i roi gwybod i wenynwyr lleol eraill am y broblem. I gael gwybodaeth am y ffordd rydym yn trin data personol a gesglir drwy'r tudalennau hyn ac yn ystod archwiliadau gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Mae'r UWG wedi cydymffurfio â gofynion cyfrinachedd ers cychwyn Deddfwriaeth Rheoli Clefydau Gwenyn ar gais y partïon â diddordeb a gyda chytundeb y partïon hynny.