Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Impio a rheoli celloedd breninesau

Impio

Rhwng wyth a 24 awr ar ôl ei sefydlu, caiff y ffrâm impio ei dynnu o'r cwch a chaiff larfâu ifanc eu casglu o nythfa fagu, gan frwsio'r gwenyn oddi ar y fframiau yn hytrach na'u hysgwyd er mwyn osgoi symud y larfâu o'u lle. Mae impio wedi bod yn llwyddiannus p'un a gaiff ei wneud y tu mewn neu'r tu allan, ar yr amod bod y larfâu yn cael eu cysgodi rhag golau'r haul a'r gwynt er mwyn eu hatal rhag sychu. Rydym yn aml yn defnyddio cerbyd neu adeilad.

Caiff larfâu gwenyn gweithgor rhwng 12 a 18 awr oed ar ôl deor eu dewis i'w himpio. Mae hyn yn sicrhau bod y larfâu yn cael cymaint o amser â phosibl i gael eu magu fel breninesau a'u bod hefyd yn ddigon mawr i gael eu himpio â chyfraddau derbyn rhesymol. Er mwyn cael nifer mawr o larfâu o'r oedran iawn i'w himpio, gellir ychwanegu diliau magu gwag at y nythfa fagu, neu frenhines fagu a roddir mewn cawell dros nos ar ddil gwag (h.y., defnyddio cawell rhwystro breninesau), bedwar diwrnod cyn impio'r larfâu.

Mae'r broses impio yn cael ei chyflawni gan ddefnyddio erfyn hyblyg tebyg i sbatwla, megis erfyn impio Tsieina, neu erfyn metel solet, megis turiwr deintydd. Mantais erfyn impio Tsieina yw ei fod yn trosglwyddo gwely o jeli'r frenhines ynghyd â'r larfâu, ond cafwyd cyfraddau derbyn da drwy ddefnyddio proses impio sych ag erfyn metel neu frwsh paent gwlyb main. Codir pob larfa drwy fynd ati o gromlin amgrom allanol ei siâp ‘c’. Caiff yr impiadau wedi'u cwblhau eu dychwelyd i'r nythfa fagu cyn gynted â phosibl.

Impio gan ddefnyddio erfyn impio Tsieina

Rheoli Celloedd y Breninesau

Edrych i weld a ydynt wedi'u derbyn

Rhwng un a thri diwrnod ar ôl y broses impio, edrychir ar y ffrâm impio i asesu a yw'r celloedd wedi'u derbyn. Caiff ei thrin yn ofalus bob amser heb ei hysgwyd na'i jerian ond gellir ei throi ben i waered er mwyn edrych ar gynnwys y celloedd. Fel arfer, bydd y gwenyn wedi ymestyn waliau’r celloedd a dderbyniwyd ymhellach gan ddefnyddio cwyr gwenyn a bydd pob larfa a dderbyniwyd yn nofio ar wely dwfn o jeli'r frenhines.

Weithiau rydym wedi nodi nad yw'r swp cyntaf o impiadau neu'r ddau swp cyntaf a osodir mewn nythfa fagu mewn unrhyw flwyddyn yn cael eu derbyn yn dda ond yna fod gan y sypiau sy'n eu dilyn gyfradd dderbyn uchel. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd, mae nythfa yn parhau i gofnodi cyfraddau derbyn gwael ar gyfer impiadau neu mae'n difa celloedd y mae wedi'u dechrau. Mae rhesymau posibl yn cynnwys presenoldeb ail frenhines yn y blwch magu uchaf neu rwystr breninesau sydd wedi'i ddifrodi y gall y frenhines symud drwyddo.

Difa Celloedd Argyfwng

Weithiau, bydd y gwenyn yn magu celloedd argyfwng ar y fframiau magu yn y blwch magu uchaf. Rhwng chwech neu saith diwrnod ar ôl y broses impio, caiff yr holl ddiliau mag yn y blwch magu uchaf eu hysgwyd i gael gwared ar y gwenyn i gyd a chaiff unrhyw gelloedd breninesau o'r fath eu difa. Gallwch gael gwared ar y celloedd breninesau argyfwng ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflawni'r dechneg cylchdroi mag a ddisgrifir yn ddiweddarach.

Cael gwared ar gelloedd impio

Gadewir celloedd y breninesau yn y nythfa fagu am y rhan fwyaf o'r amser y byddant yn datblygu, am fod chwileri llawndwf y breninesau wedyn yn fwy cadarn a gellir eu symud gyda llai o risg y cânt eu niweidio. Caiff celloedd y breninesau eu tynnu o'r nythfa 11 diwrnod ar ôl y broses impio, tua diwrnod cyn i'r breninesau ddeor. Os bydd sypiau olynol yn cael eu himpio, caiff y fframiau eu marcio er mwyn sicrhau y caiff y swp cywir ei dynnu allan. Gosodir celloedd breninesau mewn nythfeydd cnewyllol heb frenhines cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu tynnu o'r nythfa fagu. Os bydd unrhyw oedi, cânt eu cadw'n dwym naill ai gan wenyn neu mewn deorydd.

Cylchdroi Mag

Gall nythfa magu breninesau sydd â digon o wenyn gofal fagu sypiau ychwanegol o impiadau. Fel arfer, gall pob nythfa fagu fagu un neu ddau swp o 24 o gelloedd yr wythnos yn ddi-dor am sawl mis yn hawdd. Os bwriedir gosod impiadau ychwanegol yn y nythfa fagu, caiff ei had-drefnu unwaith yr wythnos drwy ‘gylchdroi'r mag’. Caiff diliau o fag a seliwyd yn ddiweddar a geir o dan y rhwystr breninesau eu symud i'r blwch magu uchaf. Caiff diliau y mae'r mag cyfan neu'r rhan fwyaf ohono wedi dod allan ohonynt eu symud i lawr o dan y rhwystr breninesau er mwyn i'r frenhines ddodwy wyau ynddynt unwaith eto. Caiff ffrâm o fag ifanc ei symud i fyny i'r lle priodol hefyd. Fel arfer, caiff un neu ddau ddil magu ei gylchdroi (eu cylchdroi) bob wythnos. Nid oes angen dod o hyd i'r frenhines gan fod y gwenyn yn cael eu hysgwyd oddi ar y fframiau magu sydd i'w symud i fyny. Caiff yr amser a dreulir yn chwilio am fframiau magu i'w symud i fyny neu i lawr ei leihau drwy eu hychwanegu tuag at y naill ben i'r blwch magu a'u tynnu o'r llall. Ar ôl dwy neu dair wythnos sefydlir patrwm cylchdroi syml.

Defnyddio Celloedd y Breninesau

Un diwrnod cyn y disgwylir i gelloedd y breninesau ddeor, mae angen eu defnyddio. Fel arall, bydd anhrefn lwyr yn y nythfa! Mae sawl opsiwn ar gael. Gellir cyflwyno'r celloedd i nythfeydd, nythfeydd cnewyllol fel arfer, neu maent yn aml yn cael eu gosod mewn bylchau a gynlluniwyd yn benodol a elwir yn fylchau paru cnewyllol. Un diwrnod ar ddeg ar ôl iddynt gael eu himpio ac un diwrnod cyn iddynt ymddangos, fel arfer rydym yn cyflwyno celloedd y breninesau i fylchau paru cnewyllol Apidea.