Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Varroa

Mae Varroa destructor, a ddisgrifiwyd yn flaenorol fel Varroa jacobsoni yn widdonyn parasitig a geir mewn mag gwenyn mêl. Ers canrif bellach, dyma'r pla mwyaf difrifol ar wenyn mêl Ewropeaidd ledled y byd. Pan fydd poblogaethau yn llenwi nythfa, mae'n arwain at glefyd a elwir yn syndrom gwiddon parasitig ac os na chaiff ei drin, fel arfer bydd nythfa wedi'i heintio yn marw o fewn 2-3 blynedd.

An adult female varroa mite

Canfuwyd Varroa am y tro cyntaf yn y DU ar 4 Ebrill 1992. Er nad oedd yn bla hysbysadwy yn flaenorol, mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Lloegr) 2006 wedi'i ddiwygio'n Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2021 er mwyn nodi bod Varroa yn bla hysbysadwy ar lefel gwenynfa, a hynny ers 21 Ebrill 2021. Mae hyn yn gymwys i Loegr ond mae deddfwriaeth debyg ar waith yng Nghymru a'r Alban.

Gallwch gofnodi presenoldeb Varroa yn eich cychod drwy fynd i'n tudalen Rhoi Gwybod am Varroa.

Cylch bywyd

Mae gan widdon benyw llawndwf gyrff hirgrwn browngoch, gwastad ac maent tua 1.6 mm wrth 1.1 mm. Mae'r gwiddonyn benyw llawndwf yn mynd i mewn i gell fagu agored, ychydig cyn iddi gael ei chapio. Yno, bydd y gwiddonyn yn aros ynghudd yn y bwyd mag, sydd o dan y larfa. Unwaith y bydd y bwyd wedi'i fwyta gan y larfa, bydd y gwiddonyn benyw yn dechrau dodwy wyau, gan ddodwy hyd at saith wy gyda bwlch o 30 awr rhwng pob un.

Tra byddant yn y gell, bydd y gwiddon yn bwyta'r chwilerod sy'n datblygu drwy gnoad a wneir gan y fam widdonyn. Bydd mag sydd wedi'i barasitio gan widdon yn pwyso llai pan fydd yn ymddangos a bydd ganddo hyd oes byrrach. Mae'r gwiddonyn hefyd yn gyfrifol am fectoru feirws adenydd wedi'u hanffurfio (DMV), er afles pellach i'r mag sy'n datblygu, oherwydd gall lefelau uchel o feirws adenydd wedi'u hanffurfio ladd chwilerod neu achosi i wenyn llawndwf ymddangos ag adenydd wedi'u hanffurfio. 

Two honey bees suffering with deformed wings are on a frame of capped brood, next to their nestmates that have healthy wings

Yn ystod y tymor gwenyna gweithredol, i bob pwrpas gall poblogaethau gwiddon ddyblu bob cylch mag os na chânt eu rheoli. Gall nythfeydd wynebu mewnlifiad ychwanegol o widdon o nythfeydd/gwenynfeydd cyfagos drwy ddwyn, drifftio a heidio. Bydd cynnydd sylweddol yn nifer y gwiddon mewn nythfa yn arwain at syndrom gwiddon parasitig.

Symptomau varroosis/syndrom gwiddon parasitig

Gall plâu Varroa difrifol achosi syndrom gwiddon parasitig. Yr arwyddion yw:

  • Capiau celloedd tyllog;
  • Chwilerod marw;
  • Larfâu a chwilerodd wedi'u cnoi neu wedi'u canibaleiddio;
  • Mag wedi'i esgeuluso;
  • Adenydd wedi'u hanffurfio;
  • Abdomenau byrrach;
  • Gwanhau'r nythfa yn gyffredinol;
  • Patrymau mag bratiog/melin bupur;
  • Ymddygiad ymosodol/amddiffynnol sydyn;
  • Colli nythfeydd.

Triniaethau ar gyfer Varroa 

Er mwyn cadw nythfeydd iach a chynhyrchiol, mae angen rhoi rhaglen monitro a rheoli Varroa gyson a pharhaus ar waith. I ddysgu mwy am fonitro poblogaethau, gweler ein ffeithlen.

Gellir rheoli Varroa drwy ddefnyddio triniaethau sy'n lladd y gwiddon, neu drwy ddulliau hwsmonaeth sy'n dibynnu ar seibiannau magu ('brood breaks') er mwyn tarfu ar broses atgenhedlu'r gwiddon.

Varroa mites that have died and fallen into the floor board

Dulliau hwsmonaeth

Mae dulliau hwsmonaeth yn manteisio ar y ffaith bod gwiddon yn atgenhedlu mewn mag gwenyn. Fel arfer, dim ond yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf y defnyddir y dulliau hyn ond gallant fod o fudd mawr ar adeg pan fo'r opsiynau o ran triniaeth yn gyfyngedig. Mae'n well gan widdon Varroa barasitio mag gwenyn gormes. Felly, mae tynnu mag gwenyn gormes yn ffordd gyflym a hawdd o leihau poblogaethau gwiddon, hyd at 50%.

Gwiddonladdwyr 

Mae gwiddonladdwyr yn elfen bwysig o gynlluniau rheoli am eu bod yn ddull effeithiol o ladd a rheoli gwiddon Varroa. Mae dau fath o blaleiddiad, sef plaleiddiaid synthetig a phlaleiddiaid ansynthetig.

Plaleiddiaid synthetig:

Mae plaleiddiaid synthetig yn gweithredu mewn un ffordd benodol. Mae risg fawr y bydd gwiddon sy'n cael eu hamlygu'n barhaus i'r cynhyrchion hyn yn datblygu ymwrthedd i blaleiddiaid ac mae tystiolaeth wedi'i dogfennu o ymwrthedd i'r cynhyrchion hyn yn y DU ac Ewrop. At hynny, mae risg amgylcheddol yn gysylltiedig â defnyddio a gwaredu'r cynhyrchion hyn mewn ffordd amhriodol.

Plaleiddiaid ansynthetig:

Mae plaleiddiaid ansynthetig yn gweithredu rhag gwiddon mewn sawl ffordd ac, felly, mae llawer llai o risg y bydd gwiddon yn datblygu ymwrthedd iddynt. Mae'r cynhyrchion hyn yn seiliedig ar ddefnyddio asidau organig, neu'r olew naws, thymol, i reoli poblogaethau gwiddon. Argymhellir cynhyrchion sy'n seiliedig ar y cemegau hyn fel y prif driniaethau i'w defnyddio yn hytrach na phlaleiddiaid synthetig, y dylid eu cadw i'w defnyddio mewn argyfwng yn unig.

A beekeeper trickles oxalic acid between the frames in a hive

Wrth ddefnyddio unrhyw driniaethau, mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y label ac yn defnyddio meddyginiaethau a gymeradwyir o dan y gyfraith yn unig. Ceir gwybodaeth am gynhyrchion sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio yn y DU ar y dudalen Meddyginiaethau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fonitro Varroa, a manylion am bob techneg unigol ar gyfer rheoli Varroa, gweler ein taflen gynghorol, ‘Rheoli Varroa’.