Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cynllun Gwenyn Iach 2030

Cydweithio i wella iechyd a hwsmonaeth gwenyn mêl yng Nghymru a Lloegr

Gweithiodd Defra a Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Cynllun Gwenyn Iach 2030.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gyflawni pedwar canlyniad allweddol, sef:

  1. Mesurau bioddiogelwch effeithiol a safonau hwsmona da, er mwyn cadw’r perygl o blâu a chlefydau mor fach â phosibl a thrwy hynny, gwneud poblogaethau gwenyn mêl yn fwy cynaliadwy.
  2. Sgiliau a gallu/capasiti cynhyrchu gwell ymhlith gwenynwyr a ffermwyr gwenyn.
  3. Gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn yn sylfaen ar gyfer gweithredu i gynnal iechyd gwenyn.
  4. Mwy o gyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth er mwyn diwallu anghenion o ran iechyd gwenyn a phryfed peillio yn fwy cyffredinol.

Bydd yr UWG a rhanddeiliaid allweddol eraill o'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynllun yn arwain y gwaith o gyflawni ei bedwar canlyniad allweddol. Mae'r rhanddeiliaid hyn yn cynnwys Cymdeithas Gwenynwyr Prydain, Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, Cymdeithas y Ffermwyr Gwenyn, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Diploma Cenedlaethol mewn Gwenyna a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.

Mae Cynllun Gweithredu wedi'i gyhoeddi, sy'n nodi mwy na 50 o gamau gweithredu i wenynwyr, ffermwyr gwenyn, cymdeithasau a'r Llywodraeth gydweithio arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau yng Nghynllun Iechyd Gwenyn 2030. 

Rhaglen Iechyd Gwenyn

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Gwenyn dilynwch y ddolen hon i ganllawiau Defra ar ddiogelu Gwenyn Mêl rhag plâu a chlefydau.