Croeso i Beebase
BeeBase yw gwefan Uned Wenyn Genedlaethol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae wedi'i hanelu at wenynwyr ac mae'n cefnogi Rhaglenni Iechyd Gwenyn Defra, Llywodraeth Cymru a'r Alban. Mae BeeBase yn cefnogi nodau Cynllun Gwenyn Iach 2030, sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a chynnal ein stociau gwenyn cenedlaethol gwerthfawr.
Mae ein gwefan yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth wenynyddol i wenynwyr, er mwyn eu helpu i gadw eu nythfeydd yn iach ac yn gynhyrchiol. Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth am wenyna, megis gweithgareddau'r Uned Wenyn Genedlaethol, deddfwriaeth ynglŷn â gwenyn mêl, gwybodaeth am blâu a chlefydau sy'n cynnwys sut i'w hadnabod a'u rheoli, cyhoeddiadau, taflenni cynghorol a chysylltiadau allweddol.
Chwaraewch eich rhan a helpwch ni drwy gofrestru ar gyfer BeeBase yma.
Gobeithio y bydd y wefan hon yn adnodd defnyddiol iawn i wenynwyr newydd a phrofiadol ac y byddwch yn cofrestru ar ei chyfer.
Mae gwybod dosbarthiad gwenynwyr a'u gwenynfeydd ledled y wlad yn ein helpu i fonitro a rheoli lledaeniad plâu a chlefydau difrifol gwenyn mêl yn effeithiol, yn ogystal â darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am sut i gadw gwenyn yn iach ac yn gynhyrchiol. Drwy ddweud wrthym pwy ydych, byddwch yn chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu i ddiogelu a chynnal gwenyn mêl ar gyfer y dyfodol. Mae Ymuno â Chymdeithas Gwenynwyr yn dod â llawer o fanteision i wenynwyr newydd a rhai mwy profiadol. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Cyswllt am ragor o wybodaeth.
Defnyddiwch y ddolen hon i anfon neges e-bost atom yn rhoi eich barn am y wefan a'r hyn yr hoffech ei weld arni. Os bydd gennych unrhyw gwestiwn, beth am ddechrau gyda'n tudalen Cwestiynau Cyffredin?
Mae ein straeon newyddion diweddaraf yn ymddangos yn yr adran ar y dde, am newyddion eraill ewch i'r adran Amdanom ni.
Y Newyddion Diweddaraf
Diweddariad ar chwilod bach y cwch yn yr Eidal
Chwilod bach y cwch yn Sisili
Mae chwilod bach y cwch, Aethina tumida, yn bla sy'n effeithio ar gychod gwenyn sy'n…
Cyfrif Cychod Gwenyn 2024
Mae'n bleser gan yr Uned Wenyn Genedlaethol lansio Cyfrif Cychod Gwenyn 2024 heddiw, 1af o fis Tachwedd.
Y Diweddaraf am Gacwn Asia 2024
Er mwyn gweld lleoliad nythod a ddinistriwyd, ewch i'r dudalen mapiau a dewiswch haen y map o Gacwn Asia
Ar 18/06/2024:
Mae…