Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Y Diweddaraf am Gacwn Asia 2024

Er mwyn gweld lleoliad nythod a ddinistriwyd, ewch i'r dudalen mapiau a dewiswch haen y map o Gacwn Asia

 

Ar 18/06/2024:

Mae 22 o Gacwn Asia wedi'u cofnodi yn y DU yn 2024.

Mae un nythaid o Gacwn Asia wedi'i ladd.

 

Llun o'r Gacynen Asia a Welwyd

 Cyf Grid:

Dyddiad yr achos cyntaf o weld Cacynen Asiaidd 

Dyddiad cadarnhau gan labordy

Lleoliad

Sir

Cofnodwyd gan

Gwelwyd Cacynen Asia / Nyth

Gwybodaeth arall 

Dyddiad difa'r nyth

 

TQ81

 17/01/2024

Dim sampl

Westfield 

 Dwyrain Sussex

 Aelod o'r Cyhoedd

Un Gacynen Asia heb ei chadarnhau

Cilfach draed car

-

 

TR25

 08/03/2024

 11 Mawrth

 Ash 

Caint 

 Aelod o'r Cyhoedd

Un Gacynen Asia

Gaeafgysgu mewn pot planhigion

 -

 

 SD52

 19/03/2024

 Dim sampl

 Preston

Swydd Gaerhirfryn 

Aelod o'r Cyhoedd

Un Gacynen Asia heb ei chadarnhau

 Warehouse

 -

 

 TQ59

21/03/2024

 22/3/2024

 Romford

Llundain Fwyaf

Gwenynwr

Un Gacynen Asia

Pryf marw ar lawr gweithdy

 -

 

 TR24

8/4/2024

 Dim sampl

 Fferi

Y Sianel

 Aelod o'r cyhoedd

 Un Gacynen Asia heb ei chadarnhau 

 -

 -

 

 TQ82

13/4/2024

 16/4/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

 Un gacynen

 Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TQ82

22/4/2024 

 24/4/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

 Un gacynen

 Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TQ82

24/4/2024

25/4/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

 Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TR13

5/5/2024

 10/5/2024

Lympne

Caint

Aelod o'r cyhoedd

 Un gacynen

Fe'i canfuwyd mewn ystafell haul

 

 

TQ82

10/5/2024

13/05/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TQ82

10/5/2024

13/05/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn – yr ail safle

 

 

TQ82

18/5/2024

21/05/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TR13

15/05/2024

17/05/2024

Etchinghill

Caint

Aelod o'r cyhoedd

Un gacynen

 

 

 

TR24

15/5/2024

17/05/204

Denton

Caint

Gwenynwr

Un gacynen

Gwaith monitro Tîm Cacwn Asia yn y gwanwyn

 

 

TR24

 20/05/2024

 22/05/2024

Alkham

Caint

Aelod o'r cyhoedd

 Un gacynen

 

 

 

TQ82

 20/05/2024

 22/05/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TR25

 21/05/2025

 24/05/2024

Barham ger Caergaint

Caint

Aelod o'r cyhoedd

Un gacynen a phrif nyth

To gerllaw ffordd

 21/05/2024

 

TR34

21/05/2024

24/05/2024

St Margaret's Bay

Caint

Arolygydd

 Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TR13

23/05/2024

30/05/2024

Etchinghill

Caint 

Aelod o'r cyhoedd/ Arolygydd

 Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TQ82

24/05/2024

30/05/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

 Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TR34

25/05/2024

 30/05/2024

Martin's Mill

 Caint

Aelod o'r cyhoedd

 

Fe'i daliwyd mewn rhwyd gan Arolygydd

 

 

TR34

30/05/2024

04/06/2024

Martin's Mill

Caint

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

TQ82

04/06/2024

06/06/2024

Four Oaks

Dwyrain Sussex

Arolygydd

Un gacynen

Gwaith monitro'r UWG yn y gwanwyn

 

 

Noder:

  • Nid oedd lluniau o Gacwn Asia a welwyd bob amser ar gael.
  • Weithiau, mae 'dyddiad yr achos cyntaf o weld Cacynen Asia' yn dangos y rhoddir gwybod am achosion o weld Cacwn Asia yn ôl-weithredol.
  • 'Dyddiad cadarnhau gan labordy' yw'r dyddiad y cadarnheir achosion o weld Cacwn Asia gan labordy ac mae'n cynnwys amseroedd danfon.

 

Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina, gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch’ ar gyfer Dyfeisiau Apple dyfeisiau android neu'r ffurflen ar-lein.

 

 

Diweddariad Geneteg – Mis Mehefin

Mae'r UWG bellach wedi cwblhau ei waith trapio yn y gwanwyn. Isod, ceir diweddariad ar y canfyddiadau allweddol a chanlyniadau diweddaraf y gwaith dadansoddi geneteg parhaus.

Ar 4 Mehefin, cafodd cacynen Asia arall ei dal yn Four Oaks, Dwyrain Sussex. Anfonwyd y gacynen hon i Fera Science ac fe'i cadarnhawyd yn swyddogol ar 6 Mehefin. Caiff gwaith dadansoddi geneteg ei gwblhau ar y sampl hefyd. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o wyth cacynen Asia bellach wedi'u dal yn yr ardal hon. Mae gwaith dadansoddi'r genoteip wedi'i gwblhau ar saith o'r cacwn ac mae'r canlyniadau yn dangos mai epil y nyth a ddinistriwyd yn Rye, Dwyrain Sussex, ar 15 Tachwedd 2023, yw pob un ohonynt.

Mae'r dadansoddiad o'r gacynen Asia a ddaliwyd yn Denton, Caint, yn dangos mai un o epil nyth a ddinistriwyd yn Alkham, Caint, ar 17 Hydref 2023, ydoedd. Dyma'r ail dro i ni gael tystiolaeth bod nyth yn y DU wedi cyrraedd ei llawn dwf ac wedi gaeafgysgu'n llwyddiannus.

Mae canlyniadau'r dadansoddiad genetig o gacwn a ddaliwyd yn Etchinghill, Caint a St. Margaret’s Bay, Caint yn dangos nad epil unrhyw nythod hysbys a ddinistriwyd yn 2023 ydynt. Fodd bynnag, mae'r canlyniadau yn awgrymu eu bod yn perthyn i gacwn a ddaliwyd wrth gymryd camau brys yn 2023 ond na ellid eu pennu i nyth hysbys. Gallai hyn awgrymu bod nythod na roddwyd gwybod amdanynt yn yr ardaloedd hyn yn 2023. Mae'n bwysig nodi bod yr UWG a Thimau Cacwn Asia lleol wedi cynnal rhaglen wyliadwriaeth estynedig ledled Caint ar ddiwedd tymor 2023, na lwyddodd i ganfod unrhyw nythod eraill.

Mae gwaith dadansoddi geneteg hefyd wedi'i gwblhau ar gyfer y brif nyth a ddinistriwyd ger Caergaint, Caint ar 23 Mai. Nid oedd yn ymddangos bod y frenhines wedi dod o unrhyw un o'r nythod hysbys o 2023. Roedd y nyth ond yn cynnwys chwe larfa, yr oedd pob un ohonynt yn driploid, sy'n golygu bod y frenhines wedi paru ag o leiaf un cacynyn gormes diploidaidd. Os mai hwn oedd yr unig gacynyn gormes roedd y frenhines wedi paru ag ef, rydym yn credu y byddai darpar freninesau o'r nyth hon yn y dyfodol yn anffrwythlon ac na allent ddatblygu'n boblogaeth hyfyw.

Nid ymddengys mai epil unrhyw nythod hysbys o 2023 oedd y ddwy frenhines cacwn Asia arall a gadarnhawyd yn Alkham a Lympne yng Nghaint.