Deddf Gwenyn 1980
Mae Deddf Gwenyn 1980 yn Ddeddf Seneddol sy'n rhoi pŵer i Weinidogion lunio Gorchmynion newydd er mwyn atal plâu neu glefydau sy'n effeithio ar wenyn rhag cael eu cyflwyno i Brydain Fawr neu ledaenu yn y wlad.
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn
Dylai pob gwenynwr fod yn gyfarwydd â darpariaethau Gorchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae deddfwriaeth debyg yn bodoli ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Gorchmynion yn rhoi pŵer i Adrannau Amaethyddol Prydain Fawr gymryd camau i reoli Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn, sy'n heintiau bacterol difrifol sy'n effeithio ar fag. Mae'r Gorchmynion hefyd yn rhoi pŵer i'r Adrannau perthnasol i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â Chwilen Fach y Cwch (Aethina tumida) a gwiddon Troplilaelaps spp. Mae'r ddau yn fygythiadau egsotig i'r diwydiant gwenyna yn y DU ar hyn o bryd.
Yn 2021, diwygiwyd y Gorchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Adran Amaethyddol y wlad honno gael ei hysbysu am bresenoldeb Varroa (mae hyn yn gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban). Yn achos Cymru a Lloegr dyna'r Uned Wenyn Genedlaethol. Diben hyn yw galluogi Prydain Fawr i gynnal cydberthynas fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon.
Rheolir gweithgarwch mewnforio gwenyn mêl gan system Trydydd Gwledydd gyfyngedig, er mwyn atal clefydau egsotig sy'n effeithio ar wenyn rhag cael eu cyflwyno i'r wlad. O dan y polisi presennol, dim ond breninesau a gwenyn gweithgar sy'n gweini arnynt a all gael eu mewnforio o Drydydd Gwledydd, ar wahân i Seland Newydd y caniateir i freninesau a gwenyn pecyn (brenhines a 15,000 o wenyn gweithgar) gael eu mewnforio ohoni. Gweler ein canllawiau i fewnforwyr am ragor o wybodaeth.
Mae'r tudalennau hyn yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth allweddol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohoni fel gwenynwr.
Nodir fersiynau o Orchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn isod:
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Lloegr) 2006
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Lloegr) (Diwygio) 2021
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2021
Deddfwriaeth Arall
Ceir deddfwriaeth hefyd rheoli cyfansoddiad mêl i'w werthu a sut y gellir ei labelu, y mae angen i chi fod yn gyfarwydd â hi, yn arbennig:
- Deddfau ynglŷn â Bwyd a Chyffuriau – er enghraifft, yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
- Rheoliadau Mêl (Lloegr) a Rheoliadau Mêl (Cymru) a'u Nodiadau cyfarwyddyd cysylltiedig a'r Gyfarwyddeb Mêl;
- Rheoliadau Labelu Bwyd;
- Deddfwriaeth Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd;
- Deddfwriaeth Diogelwch Bwyd;
- Deddfwriaeth ynglŷn â Meddyginiaethau Milfeddygol.