Mae'r UWG, ar y cyd â Defra a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu cynlluniau wrth gefn a mesurau gwyliadwriaeth er mwyn gallu mynd i'r afael ag achosion o bla egsotig neu glefyd. Ers 2003, mae Arolygwyd Gwenyn Penodedig wedi bod yn cynyddu'r Rhaglenni Gwyliadwriaeth Statudol er mwyn monitro'n benodol am Aethina tumida - Chwilen Fach y Cwch, gwiddon Tropilaelaps a Vespa velutina, sef cacynen Asiaidd.
Mae'r UWG yn defnyddio BeeBase wedi'i gysylltu â Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn helpu i flaenoriaethu'r rhaglen hon a thargedu ‘Gwenynfeydd lle Ceir Risg,' er enghraifft:
- Gwenynfeydd sydd wedi'u lleoli'n agos (<10km) at feysydd sifil a milwrol;
- Depos cludo nwyddau a phorthladdoedd cyrraedd ar gyfer ffrwythau a bwydydd eraill;
- Gwenynfeydd sy'n perthyn i fewnforwyr gwenyn a gwenynfeydd o'u hamgylch.
At hynny, mae'r UWG, mewn cydweithrediad â chymdeithasau a gwenynwyr lleol, yn cynnal ymarferion argyfwng blynyddol mewn sawl rhanbarth. Mae ein cynlluniau wrth gefn yn nodi'r ymateb i achos o bla egsotig os canfyddir naill ai Chwilod Bach y Cwch, Tropilaelaps spp. neu Gacwn Asiaidd yn y DU.
Caiff mesurau brys eu rhoi ar waith er mwyn asesu maint y pla yn gyflym ac yna caiff y pla ei ddileu, os yw'n bosibl. Fodd bynnag, os bydd y pla yn ymsefydlu ac na ellir ei ddileu, rhoddir polisi cyfyngu a rheoli ar waith. Bydd y dull gweithredu a fabwysiedir yn dibynnu'n fawr ar faint y pla. Mae trefniadau tebyg yn gymwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dilynwch y ddolen er mwyn lawrlwytho ein camau gweithredu arfaethedig os caiff pla egsotig neu glefyd sy'n effeithio ar wenyn mêl eu cyflwyno i Gymru neu Loegr.
- Cynllun wrth Gefn Cyffredinol ar gyfer Iechyd Planhigion a Gwenyn
- Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps (Saesneg)
- Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps (Cymraeg)
- Cynllun wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Cacwn Asiaidd (Vespa velutina nigrithorax) (Saesneg)
- Cynllun wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Cacwn Asiaidd (Vespa velutina nigrithorax) (Cymraeg)
Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA)
Asesiad o'r Risg y bydd Pla Gwenyn yn Cyrraedd yr UE
Mae EFSA wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi llwybrau sy'n peri risg sylweddol y gallai plâu egsotig megis Chwilen Fach y Cwch a Tropilaelaps gyrraedd yr UE. Mae'r asesiad risg a gynhaliwyd gan Iechyd a Lles Anifeiliaid (AHAW) yn ystyried pob un o'r ffyrdd posibl y gallai plâu gyrraedd yr UE.
Mae tudalennau adroddiad EFSA yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fannau cyrraedd posibl, gan gynnwys:
- Plâu yn cyrraedd yr UE gyda gwenyn a fewnforir;
- Cynhyrchion gwenyn a fewnforir;
- Gwenyn a fewnforir yn anfwriadol mewn llwythi o nwyddau nad ydynt yn wenyn.
Maent hefyd yn cynnwys papur sy'n nodi barn wyddonol panel EFSA ar y risg y bydd Chwilod Bach y Cwch a Tropilaelaps spp yn cyrraedd yr UE.
Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA
Ym mis Mai 2013, cynhaliwyd Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA yn Parma yn yr Eidal lle yr ymgasglodd mwy na 100 o arbenigwyr ym maes gwenyn er mwyn trafod sawl straenachosydd sy'n effeithio ar iechyd gwenyn. Yn y Colocwiwm, a oedd yn dwyn y teitl "Towards a holistic approach to the risk assessment of multiple stressors in bees", trafodwyd pedair thema yn fanwl, sef:
- Yr hyn sydd angen ei ddiogelu mewn cyd-destun amgylcheddol mewn caeau ('in-field') ac yn yr ardal o'u hamgylch ('off-field')?
- Pa adnoddau sydd ar gael i asesu effeithiau ar wasanaethau peillio a achosir gan effeithiau ar wenyn a beth yw'r heriau sy'n gysylltiedig ag asesu'r effeithiau hynny?
- Pa effeithiau y gellid eu goddef (h.y. ar wenyn, cnydau a phlanhigion gwyllt) dros ba raddfeydd gofodol ac amserol a pha ddulliau sydd ar gael i nodi effeithiau o'r fath?
- Beth yw'r mesurau lliniaru i ddiogelu gwenyn, gwasanaethau peillio a phlanhigion?
Ceir rhagor o fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys cyflwyniadau ac anerchiadau a roddwyd gan y panel, yma.