Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 2015/1366 yn darparu fframwaith er mwyn i'r Llywodraeth gynnig cymorth i wella amodau cyffredinol ar gyfer gweithgarwch cynhyrchu yn y diwydiant gwenyna a marchnata cynhyrchion gwenyna. Mae'r rheoliad hwn yn gyfraith yr UE a ddargedwir a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau y gellir parhau i'w rhoi ar waith ar ôl 31 Rhagfyr 2020. O dan y rheoliad, caiff y Llywodraeth lunio rhaglenni gwenyna cenedlaethol sy'n cwmpasu cyfnod o dair blynedd.
Mae'r mesurau y gellir eu cynnwys yn y rhaglen wenyna fel a ganlyn:
- cymorth technegol; er enghraifft, hyfforddiant i wenynwyr a grwpiau o wenynwyr ar bynciau megis bridio neu atal clefydau, tynnu mêl o'r diliau, storio mêl, pecynnu mêl ac ati;
- mynd i'r afael â thresmaswyr mewn cychod a chlefydau, yn enwedig varroosis; mae Varroa yn barasit endemig sy'n gwanhau systemau imiwnedd gwenyn ac sy'n arwain at golli nythfeydd gwenyn, os na chaiff ei drin;
- symleiddio prosesau trawstrefa sy'n bwysig o ran peillio yn ogystal â maeth gwenyn;
- dadansoddi cynhyrchion gwenyna: mêl, jeli'r frenhines, glud gwenyn ('propolis'), paill a chwyr gwenyn;
- ailstocio cychod;
- ymchwil gymhwysol;
- monitro marchnadoedd;
- gwella ansawdd cynnyrch er mwyn manteisio ar botensial cynhyrchion gwenyna ar y farchnad.
Mae'r Rhaglen Wenyna yng Nghymru a Lloegr yn seiliedig ar y rhaglen iechyd gwenyn bresennol ac mae'n canolbwyntio ar helpu gwenynwyr drwy ddarparu cymorth technegol er mwyn mynd i'r afael â phlâu a chlefydau sy'n effeithio ar wenyn a'u rheoli. Caiff y rhaglen wenyna yn Lloegr ei gweithredu gan yr Uned Wenyn Genedlaethol drwy ddarparu gwasanaeth yn hytrach na grantiau neu daliadau uniongyrchol.
Adroddiad ar gyfer rhaglen wenyna'r DU, y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2021 (Saesneg).
Adroddiad ar gyfer rhaglen wenyna'r DU, y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2021 (Saesneg).