Nodwch: mae'r Cyfrif Cychod yn rhedeg bob blwyddyn o'r 1af o Dachwedd i'r 31fed o Rhagfyr; dim ond yn ystod y cyfnod hwnnw y bydd y dolenni isod ar gael.
Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol am i CHI ddiweddaru'ch cofnodion!
Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol unwaith eto yn gofyn i wenynwyr gymryd rhan yn y Cyfrif Cychod Gwenyn Cenedlaethol a diweddaru BeeBase drwy nodi nifer eu nythfeydd. Gwnaeth dros 8,500 o wenynwyr gwblhau'r Cyfrif Cychod Gwenyn yn 2023!! Mae'r wybodaeth hon yn hollbwysig er mwyn i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer achosion o glefyd neu blâu egsotig. Mae'n bwysig iawn, er enghraifft, ein bod yn gwneud popeth posibl i gadw lefelau clefyd y gwenyn mor isel â phosibl. Mae gwybodaeth am nifer a lleoliad gwenynwyr, cychod gwenyn a gwenynfeydd yn helpu i roi gwybod ble y dylid anfon Arolygwyr Gwenyn. Mae hyn berthnasol mewn perthynas â chlefydau a phlâu cyfarwydd a bygythiadau mwy diweddar fel y rhywogaeth oresgynnol niweidiol, cacynen Asia (Vespa velutina).
Byddwn hefyd yn defnyddio'r ffigurau sydd gennym ar BeeBase i fonitro poblogaethau gwenyn mêl dros amser. Mae meddu ar gofnodion cyfredol sy'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol bob blwyddyn yn hollbwysig ac mae'n ein galluogi i fonitro newidiadau dros amser. I'r perwyl hwn, mae'n bwysig ein bod yn gofyn i bob gwenynwr roi gwybod i ni faint o gychod gwenyn y mae'n berchen arnynt ar 1 Tachwedd 2024. Mae defnyddio'r dyddiad hwn yn ein helpu i sicrhau cysondeb ledled y wlad drwy adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol ar adeg benodol. Os nad oedd gennych unrhyw nythfeydd ar y dyddiad hwnnw, mae'n bwysig eich bod yn diweddaru eich cofnod BeeBase i gadarnhau hyn. A fyddech cystal â rhoi'r wybodaeth hon erbyn 31 Rhagfyr.
Cliciwch ar y ddolen hon i ddiweddaru eich Cyfrif Cychod Gwenyn.
Mae angen eich enw defnyddiwr i fewngofnodi – nodwch nad yw hwn yr un fath â'ch cyfeiriad e-bost.
Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn rhoi canllawiau ar sut i ddiweddaru BeeBase. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ymdrinnir â hwy yma, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy:
E-bost: Hive.count@apha.gov.uk
Ffôn: 0300 3030094
Dylech fod yn ymwybodol y byddwn yn ymdrin â nifer mawr iawn o alwadau ac ymholiadau gan wenwynwyr. Fodd bynnag, byddwn yn anelu at ymateb i'ch ymholiad o fewn pum diwrnod gwaith
Mae cael mwy o wybodaeth am nifer y cychod gwenyn yn y DU yn rhan o fentrau y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo iddynt er mwyn cymryd camau i wella iechyd ein pryfed peillio. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau poblogaeth ffyniannus a chynaliadwy o bryfed peillio. Nodir ein mentrau yn y canlynol:
- Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Pryfed Peillio (Lloegr);
- Y Cynllun Gwenyn Iach;
- Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio;
- Strategaeth Iechyd Gwenyn Mêl yr Alban;
- Strategaeth Pryfed Peillio yr Alban;
- Strategaeth er Cynaliadwyedd Gwenyn Mêl (Gogledd Iwerddon).
Nododd y cyfrif yn 2023 fod tua 252,577 o gychod gwenyn mêl yn y DU.
Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth yn y prosiect hwn.
Yr Uned Wenyn Genedlaethol
2018 - 244,000
2019 - 264,000
2020 - 260,000
2021 - 272,631