Y Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol – Samplu Mêl
Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion y rhaglen casglu mêl a gynhelir gan yr Uned Wenyn Genedlaethol ar ran y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, sef yr Awdurdod Cymwys Canolog sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth. Mae'r Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol yn cynnal archwiliadau er mwyn sicrhau bod cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn y DU yn ddiogel ac mae mêl wedi'i gynnwys yn y rhaglen hon. Cynhelir profion ar anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i weld a ydynt yn cynnwys gweddillion sylweddau gwaharddedig, halogyddion a meddyginiaethau milfeddygol awdurdodedig. Diben hyn yw diogelu defnyddwyr drwy sicrhau nad yw bwydydd yn cynnwys gweddillion annerbyniol. Mae'r profion hyn yn ofynnol o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Lloegr a'r Alban) 2015 yn Lloegr a'r Alban a Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019 yng Nghymru.
Samplu mêl
Mae'r UWG wedi bod yn gwneud y gwaith hwn yng Nghymru a Lloegr ers 2002. Mae'n golygu casglu samplau o fêl o'r diliau neu unrhyw ran o'r broses botelu gan gynhyrchwyr mêl (unrhyw wenynwr sy'n gwerthu mêl) er mwyn dadansoddi gweddillion. Caiff y samplau hyn eu casglu yn ystod y tymor ar yr un pryd ag y cynhelir archwiliadau o wenynfeydd am glefydau sy'n effeithio ar wenyn. Ni chodir unrhyw dâl ar y gwenynwr am y gwaith samplu mêl a chymerir mwy na 100 o samplau o fêl bob blwyddyn ledled Cymru a Lloegr gan Arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'r samplau yn ceisio adlewyrchu nifer y gwenynwyr mewn rhanbarth penodol a chânt eu casglu naill ai o'r siambr fagu, y llofft, mêl potel neu storfa swmp. Yn ystod y broses rhaid i chi fynd gyda'r arolygydd fel tyst, gan y byddwch yn llofnodi fel y cyfryw.
Caiff y sampl ei rhoi mewn jar â chod bar a gaiff ei thapio i mewn i orchudd amddiffynnol wedyn. Caiff gwaith papur y broses samplu ei chwblhau a rhoddir cod bar ynghlwm wrth daflen wybodaeth i chi. Yna caiff y gwaith papur a'r sampl eu selio mewn bag tystiolaeth. Yna gofynnir i chi lofnodi a dyddio'r bag diogelwch ynghyd â'r arolygydd fel cofnod o'r ffaith bod y sampl wedi'i chymryd. Yna anfonir y sampl i'r Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd lle y caiff ei dadansoddi i weld a yw'n cynnwys unrhyw halogyddion.
Canlyniadau
Anfonir yr holl ganlyniadau i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol lle y caiff y wybodaeth ei chofnodi. P'un a ganfyddir bod sampl yn cynnwys halogyddion ai peidio, bydd y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn anfon llythyr yn cadarnhau'r canlyniadau. Fel arfer, cwblheir y broses hon o fewn tua thri mis i gymryd y sampl a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, gan na all yr UWG weld unrhyw ganlyniadau.
Beth fydd yn digwydd os canfyddir gweddillion annerbyniol?
Cynhelir ymweliad dilynol er mwyn canfod sut y gallai'r mêl fod wedi cael ei halogi â gweddillion a chynnig cyngor ar sut i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Os canfyddir sylweddau anghyfreithlon neu grynodiad uchel o feddyginiaeth awdurdodedig, efallai y cymerir camau cyfreithiol.
Manylion Pellach
Cyhoeddir canlyniadau'r Rhaglen Monitro Bwyd bob blwyddyn gan Wasanaeth Gwybodaeth Filfeddygol am Awdurdodiadau Marchnata (MAVIS) y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Diben hyn yw sicrhau bod gennych y wybodaeth orau sydd ar gael am y gwaith, y cynlluniau a'r canlyniadau, yn ogystal â datblygiadau cyffredinol o ran y rheolaethau ar feddyginiaethau milfeddygol. Cyhoeddir MAVIS bob chwarter a gellir gweld copïau cyhoeddedig ar-lein ar wefan MAVIS.