Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cyfrifoldeb cyfreithiol gwenynwyr

Rhwymedigaethau cyfreithiol Gwenynwyr

Hysbysu'r Uned Wenyn Genedlaethol am blâu neu glefydau gwenyn 
 
Mae'n ofyniad cyfreithiol i chi hysbysu'r Uned Wenyn Genedlaethol os gwyddoch fod clefyd neu bla hysbysadwy yn bresennol yn eich nythfeydd, neu os ydych yn amau hynny.  
Clefydau hysbysadwy yw:    

  • Clefyd Americanaidd y Gwenyn (AFB) (Paenibacillus larvae)
  • Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn (EFB) (Melissococcus plutonius

Plâu hysbysadwy yw:  

  • Chwilen fach y cwch (SHB) (Aethina tumida)
  • Unrhyw rywogaethau o'r gwiddonyn Tropilaelaps 

Gellir rhoi gwybod am glefyd neu bla hysbysadwy yma.  

Mae hyn yn ofynnol o dan:

•    Erthygl 3 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Cydymffurfio â hysbysiadau gwahardd symud, trin, difa a symud 

Mae'n ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â hysbysiad gwahardd symud pan gaiff ei gyhoeddi. 
Os canfyddir clefyd neu bla hysbysadwy, bydd hysbysiad gwahardd symud yn cael ei gyhoeddi. Ni chaniateir symud nythfeydd na chyfarpar nes bod yr hysbysiad gwahardd symud wedi'i ddiddymu'n swyddogol.  Gellir hefyd gyhoeddi hysbysiad gwahardd symud yn yr amgylchiadau canlynol: 
•    os bydd gwenynwr yn atal arolygydd rhag archwilio'r nythfeydd 
•    os amheuir bod meddyginiaethau milfeddygol anghyfreithlon yn cael eu defnyddio, neu os profir hynny. 

Yn dibynnu ar y clefyd neu'r pla hysbysadwy a ganfuwyd, caiff hysbysiad trin neu ddifa ei gyhoeddi, yn nodi'r hyn a fydd yn digwydd i nythfeydd sydd wedi'u heintio/sydd â phla. 
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall yr Uned Wenyn Genedlaethol gyhoeddi trwyddedau i dynnu mêl o nythfeydd sydd wedi'u heintio ag EFB a/neu symud nythfeydd sydd wedi'u heintio.  

Mae'n ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio ag amodau'r trwyddedau hyn os cânt eu cyhoeddi. 

Mae hyn yn ofynnol o dan:

•    Erthygl 6 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Mynd i'r afael ag achosion o glefyd a phla


Mae'n ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â'r dulliau difa neu drin a bennwyd mewn hysbysiad. 

Mae hyn yn ofynnol o dan:

•    Erthygl 7  o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

•    Erthygl 8 o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Plâu Adroddadwy

Mae'n ofyniad cyfreithiol i chi roi gwybod am bresenoldeb gwiddonyn Varroa yn eich cychod gwenyn. 
Gellir rhoi gwybod am bresenoldeb gwiddonyn Varroa drwy BeeBase. Edrychwch ar eich cofnodion er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gywir. 
Nid yw cofrestru â BeeBase yn ofyniad cyfreithiol. Gall gwenynwyr nad ydynt wedi cofrestru gofnodi Varroa yma. 

Mae hyn yn ofynnol o dan:

•    Erthygl 3A o Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Rhwymedigaethau Mewnforio

Os ydych yn bwriadu mewnforio gwenyn mêl, mae'n ofyniad cyfreithiol i chi wneud y canlynol:

  • Ei gofrestru ar y System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Phorthiant (IPAFFS).
  • Cydymffurfio â'r gofynion mewnforio
    •  Rhaid i'r gwenyn dod o wlad gymeradwy
    • Rhaid i'r gwenyn gael eu mewnforio gyda thystysgrif iechyd allforio yn cadarnhau eu bod wedi cael eu harchwilio cyn iddynt gael eu hanfon a'u bod yn dod o ardaloedd heb glefyd
    • Oni bai eu bod yn cael eu hallforio o Seland Newydd, dim ond breninesau y gellir eu mewnforio (ni chaniateir pecynnau na nythfeydd)
  • Trosglwyddo'r breninesau a fewnforiwyd i gewyll newydd cyn eu rhoi yn y nythfeydd bwriadedig.
  • Anfon y cewyll y cafodd y breninesau eu cludo ynddynt a'r gwenyn sy'n gweini i labordy'r Uned Wenyn Genedlaethol: RM 02G06 Fera Science Ltd York Biotech Campus, Sand Hutton, York YO41 1LZ

Mae hyn yn ofynnol o dan y canlynol: 

•    Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol 2011 (fel y'u diwygiwyd)
•    Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011


a

ac

Dilynwch Nodiadau Cyfarwyddyd i Fewnforwyr BeeBase

Rhwymedigaethau Allforio


Mae'n debygol y bydd rhwymedigaethau cyfreithiol yn y wlad gyrchfan; gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â'r rhain. Gall methu â chydymffurfiaeth arwain at ddifa eich llwyth o wenyn. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol Awdurdodedig 

Dim ond meddyginiaethau milfeddygol sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio i drin gwenyn mêl yn y DU y caniateir ei chi eu defnyddio. Rhaid i chi ddefnyddio'r meddyginiaethau hyn yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y label. 
Gallwch gadarnhau a yw cynnyrch wedi'i awdurdodi drwy deipio ‘Bees’ yn yr adnodd hidlo yn adran ‘Species’ cronfa ddata cynhyrchion y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Predefined Searches’ a dewis “Products for use in Bees”.

O dan y Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol, mae'n drosedd defnyddio sylweddau anawdurdodedig (meddyginiaethau neu sylweddau eraill o'r tu allan i'r DU, oni bai eu bod wedi'u rhagnodi gan filfeddyg) i drin neu atal clefyd ymhlith gwenyn. 
Gellir cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os canfyddir meddyginiaethau milfeddygol anawdurdodedig neu grynodiadau uchel o feddyginiaethau milfeddygol awdurdodedig mewn samplau o fêl o'ch nythfeydd.  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.gov.uk/guidance/bee-medicines-availability-in-the-uk  

Gallwch roi gwybod i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol os ydych yn amau gweithgarwch anghyfreithlon yn ymwneud â meddyginiaethau milfeddygol, gan gynnwys y defnydd o feddyginiaethau anawdurdodedig, drwy'r wefan ganlynol:  
https://www.gov.uk/guidance/report-illegal-animal-medicines 

Cofnod o Feddyginiaethau Milfeddygol 


Rhaid i chi gadw cofnodion o'r holl feddyginiaethau milfeddygol a roddwyd i nythfeydd am bum mlynedd o leiaf, p'un a yw'r nythfa dan sylw yn dal i fod yn eich meddiant ai peidio neu p'un a yw wedi marw yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio.

Mae'r ‘cerdyn cofnodi meddyginiaethau’, sydd ar gael ar-lein, yn dempled defnyddiol i chi ei ddefnyddio i fodloni'r gofynion hyn.

Gall yr awdurdod perthnasol a/neu arolygydd gwenyn ofyn am eich cofnodion o feddyginiaethau ar unrhyw adeg.  O dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013, mae'n drosedd peidio â chadw cofnodion. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.gov.uk/guidance/bee-medicines-availability-in-the-uk 


Rheolaethau ar Weddillion mewn Mêl

Os ydych yn bwriadu gwerthu mêl i'w fwyta gan bobl, rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r gofynion i reoli gweddillion sylweddau gwaharddedig, meddyginiaethau milfeddygol a halogyddion. Amlinellir y rhain yn Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Lloegr a'r Alban) 2015. 
Mae Erthygl 10(2) o'r Rheoliadau yn nodi'n glir na chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch anifail sy'n cynnwys sylwedd anawdurdodedig, neu grynodiad o sylweddol awdurdodedig sy'n fwy na'r Terfyn Gweddillion Uchaf, i'w fwyta gan bobl – ac mae'n drosedd gwneud hynny.  

Cyfraith Bwyd Gyffredinol


Os ydych yn cynhyrchu mêl i'w werthu, rhaid i chi gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd. 
Mae tudalen we yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnwys trosolwg o brif ddeddfwriaeth Prydain Fawr a deddfwriaeth yr UE a ddargedwir sy'n ymdrin â'r meysydd canlynol: 

  • mewnforion ac allforion bwyd hylendid
  • diogelwch
  •  y gallu i olrhain
  • labelu cynhyrchion, eu tynnu'n ôl a'u hadalw
  • cofrestru busnesau bwyd

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn nodi rheolau ar gyfer pob busnes bwyd, ac yn cymhwyso rheolaethau effeithiol a chymesur ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi, o gynhyrchu cynradd i werthu neu gyflenwi i'r defnyddiwr bwyd.  
Yn gyffredinol, mae rheoliadau ar ddiogelwch bwyd, labelu a marchnata yng Nghymru a Lloegr yn efelychu ei gilydd. 

Cyfansoddiad mêl a labelu 


Er mwyn gwerthu mêl, ni chaniateir i chi gynnwys unrhyw gynhwysyn nac ychwanegyn arall ynddo, tynnu dim ohono na'i drin mewn unrhyw ffordd sy'n golygu y gallai fod yn niweidiol i iechyd y bobl sy'n ei fwyta.   

Mae hyn yn ofynnol o dan Reoliadau Mêl (Cymru) 2015 a Rheoliadau Mêl (Lloegr) 2015. 

Canllawiau eraill 

Pan fyddwch yn dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau dros fusnes presennol, rhaid i chi gofrestru eich busnes bwyd â'r awdurdod lleol. 

Os ydych yn gwerthu mêl ar-lein, dylech gyfeirio at ganllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gofrestru eich busnes. 
  
Yng Nghymru, gall Arloesi Bwyd Cymru roi cyngor i ficrofusnesau ar agweddau ar ddatblygu cynnyrch, a gall prosiect Cywain roi cymorth i fusnesau bwyd newydd.