Cyflwynwyd Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol 2011 (TARP) er mwyn cyfuno a symleiddio pum set o reoliadau ynglŷn â Chynhyrchion Anifeiliaid. Mae'r rheoliadau yn nodi sut y caiff archwiliadau milfeddygol a chyfarwyddebau Balai eu rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr
Mae'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu'r canlynol:
- Mewnforio anifeiliaid a deunydd genetig o Drydedd Wlad
- Mesurau diogelu: gwahardd mewnforio unrhyw anifail neu unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifail o wlad neu gyfyngu ar ei fewnforio os amheuir ei fod yn peri risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid.
- Gweinyddu, gan gynnwys hysbysiadau ac awdurdodi, ffioedd, cosbau a throseddau.