Rhybudd Newyn i Wenynwyr
Yn ystod cyfnodau hir o dywydd oer a gwlyb a/neu pan fydd prinder porthiant, gall gwenyn ddihysbyddu eu cyflenwadau mêl neu siwgr i gyd. Gall hyn ddigwydd yn aml yn y gwanwyn pan fydd nythfeydd yn defnyddio'r hyn sy'n weddill o'u cyflenwadau ar gyfer y gaeaf i feithrin mag. Unwaith y bydd nythfa wedi dihysbyddu ei chyflenwadau, gall farw o newyn yn gyflym iawn. Gyda'r gofal a'r sylw cywir, gellir atal gwenyn rhag marw o newyn.
Mae David Wilkinson, cyn-Reolwr Nythfeydd yn yr UWG, yn esbonio sut i adnabod arwyddion newyn a'r camau brys y dylech eu cymryd.
Mae'r gwenyn hyn yn newynu
Dengys y lluniau uchod gapiau mag wedi'u cnoi, annormal a welwyd ar ôl gwanwyn oer a gwlyb hir.
Gall capiau wedi'u cnoi fod yn arwydd o glefyd y gwenyn, lefelau uchel o widdon Varroa, mag oeredig neu newyn.
Yn yr achos uchod mae rhannau o chwilerod gwyn i'w gweld drwy'r tyllau yn y capiau. Petai'n achos o Glefyd Americanaidd y Gwenyn, byddech yn disgwyl gweld gweddillion larfaol brown neu gen tywyll o dan y capiau hynny; ac, fel arfer, mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn amlygu ei hun fel larfâu afliwiedig/ystumiedig/‘toddedig’ cyn iddynt gael eu capio. Wrth gwrs, gallai clefyd y gwenyn hefyd fod yn bresennol yn y nythfa. Felly, dylech gynnal archwiliad trylwyr o'r mag i weld a oes unrhyw arwyddion o wenyn cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu hynny. Am ragor o ganllawiau ar adnabod arwyddion o glefyd y gwenyn, darllenwch ein taflen gynghorol ar glefyd y gwenyn.
Mae'r nythfa a ddangosir yn y llun wedi'i thrin yn dda ar gyfer Varroa; ac roedd yn nythfa fawr, felly nid oedd y mag wedi oeri. Newyn oedd yr achos.
Arwyddion o Newyn mewn Nythfa
- Mae capiau wedi'u cnoi â chwilerod iach yr olwg oddi tanynt yn arwydd nodweddiadol bod y nythfa ar fin newynu.
- Mae pob un o'r celloedd o amgylch y nyth fagu lle y byddech yn disgwyl canfod cyflenwadau mêl/surop yn sych.
- Mae'r gwenyn yn cnoi capiau'r mag, mewn ymgais i ddod o hyd i fwyd, yn ôl pob tebyg. Weithiau byddant yn tynnu chwilerod allan o'r celloedd a'u gollwng ar y llawr neu eu taflu y tu allan i'r fynedfa.
- Ar yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd y gwenyn yn swrth iawn, am fod diffyg bwyd yn golygu nad oes ganddynt unrhyw egni. Byddant yn cropian i mewn i gelloedd wysg eu pen ac, ar yr adeg honno, gall y nythfa gyfan farw yn gyflym iawn.
Gweithredu ar Fyrder
- Os bydd y gwenyn ar fin newynu (gweler yr arwyddion uchod), dylech eu bwydo yn ddi-oed.
Neu os mai dim ond un neu ddau grwybr o gyflenwadau sydd gan y gwenyn, dylech eu bwydo ar yr un diwrnod neu o fewn dau neu dri diwrnod o leiaf. - Y ffordd ddelfrydol o fwydo gwenyn yw â chrwybrau llawn mêl wedi'u storio a gymerwyd yn flaenorol o'ch gwenyn eich hunain, neu grwybrau llawn mêl sbâr a gymerwyd o un o'ch cychod gwenyn eraill yn y wenynfa, ar yr amod bod gan y cwch gwenyn y cymerir y crwybrau ohonynt gyflenwadau digonol iddo'i hun o hyd.
Pwysig: Oherwydd y risg o ledaenu heintiau, os oes hanes o glefyd y gwenyn yn eich gwenynfa yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ni ddylech ddefnyddio crwybrau o'r fath, oni bai ei fod yn grwybr wedi'i storio sydd wedi'i labelu'n glir a'ch bod yn gwybod y bydd yn mynd yn ôl i'r un nythfa y daeth ohoni.
Os bydd y crwybr(au) mêl i gyd wedi'i gapio/wedi'u capio, crafwch ychydig o gapiau i ffwrdd, er mwyn i'r gwenyn sy'n newynu allu cyrraedd y mêl ar unwaith. Gosodwch y cyflenwadau wrth ochr y mag, neu yn y canol os bydd y gwenyn yn dechrau marw o newyn.
- Fel arall, dylech eu bwydo â surop siwgr tew (wedi'i gynhesu) neu roi eich mêl eich hun iddynt, ar yr amod na fu unrhyw achosion o glefyd y gwenyn yn eich gwenynfa. Peidiwch byth â'u bwydo â mêl pobl eraill na mêl a brynwyd o siop am fod hyn yn peri risg sylweddol y caiff eich gwenyn eu heintio â chlefyd y gwenyn.
Mae surop siwgr tew yn cynnwys 2 bwys o siwgr gronynnog gwyn i un peint o ddŵr, neu 1 kg i 625 ml. Mae ffrâm fwydo yn dda am fod y gwenyn yn gallu cyrraedd y surop yn gyflym ac yn hawdd. Os bydd y gwenyn yn swrth sy'n golygu ei bod yn bosibl na fyddant yn gallu cyrraedd y surop, dylech ddiferu symiau bach yn syth ar y gwenyn rhwng y semau (peidiwch â gorwneud hyn, oherwydd gall gormod o wenyn gludiog achosi problem); bydd tua 2-3 ml fesul sêm yn ddigon, oherwydd bydd hyn yn rhoi digon o egni iddynt allu dringo i fyny at borthwr cyflym neu borthwr cyswllt. Gellir chwistrellu surop ar y gwenyn, yn lle ei ddiferu, ond efallai y bydd angen ei deneuo â dŵr er mwyn rhoi ewyn mân.
Ffordd dda arall o sicrhau y gall gwenyn swrth gyrraedd bwyd yn gyflym yw llenwi'r celloedd ar un ochr i grwybr gwag â surop siwgr drwy osod y ffrâm ar ei gwastad mewn hambwrdd a chwistrellu surop o drwyn potel hylif golchi sydd wedi'i lanhau'n drylwyr, neu ei chwistrellu o jar â thyllau 3 mm yn y caead, neu ei arllwys fesul tipyn, gan ysgwyd/gogwyddo/taro'r ffrâm ar yr un pryd. Gollyngwch y ffrâm i lawr yn ofalus ymhlith y gwenyn. Pan fydd y gwenyn yn fwy egnïol, y gobaith yw y byddant yn cyrraedd porthwr cyflym neu borthwr cyswllt.
- Fel arall, dylech eu bwydo â ffondant, ond mae angen i chi sicrhau ei fod yn ddigon agos at y gwenyn er mwyn iddynt allu dod o hyd iddo. Os bydd y gwenyn yn swrth a'i bod yn oer, efallai na fyddant yn dod o hyd i'r ffondant uwchben twll bwydo. Mae'n well gosod y ffondant ar draws pen uchaf y fframiau magu mewn gwahanydd bach ('eke').
Gwiriadau Hanfodol
- Codwch y cychod gwenyn. Gyda phrofiad, byddwch yn dysgu beth sy'n ddigon trwm ac yn arwydd da bod y cyflenwadau yn ddigonol. OND gall mag a phaill gronni i greu cwch gwenyn eithaf trwm, felly peidiwch â llaesu dwylo.
- Archwiliwch rai o'r crwybrau. Archwiliwch y cwch gwenyn bob wythnos neu bythefnos yn ystod gwanwyn oer a gwlyb neu ar adegau eraill pan fydd prinder bwyd. Os bydd llofft fêl sy'n hanner llawn mêl (neu fwy), gallwch fod yn hyderus nad oes fawr ddim risg o newyn. Os na fydd unrhyw lofft fêl drwm, archwiliwch y blwch magu. Peidiwch â phoeni ynghylch y posibilrwydd y gallai'r mag oeri, oherwydd nid oes angen i chi dynnu crwybrau mag yn gyfan gwbl allan o'r cwch gwenyn, ysgwyd gwenyn oddi ar y crwybrau na gadael crwybrau y tu allan i'r cwch gwenyn. Os oes gennych flwch magu dwbl, mae'n debyg mai dim ond yr un uchaf y bydd angen i chi ei archwilio, oherwydd dyna ble mae'r cyflenwadau yn debygol o fod, nid oes angen i chi wahanu'r blychau hyd yn oed. Os yw'r blwch magu uchaf yn hanner (bas), efallai y bydd angen i chi edrych oddi tano hefyd.
- Codwch bob crwybr hanner ffordd allan er mwyn i chi allu gweld a yw'n cynnwys mag neu gyflenwadau. Aseswch yn fras bwysau'r cyflenwadau o fêl/surop ym mhob crwybr (dim/chwarter/hanner/tri chwarter/un). Adiwch y cyflenwadau o fêl/surop yn y crwybrau at ei gilydd. Gweithiwch tuag at i mewn o un ochr nes i chi gyrraedd crwybrau mag a dim mêl (bron â bod), yna newidiwch a gweithiwch tuag at i mewn o'r ochr arall. Adiwch nhw at ei gilydd yn eich pen wrth i chi fynd ymlaen (neu cofnodwch y swm neu gofynnwch i'ch cynorthwyydd ei gofnodi). Dylech gyfrif fframiau bas fel rhai sy'n cyfateb i fframiau hanner dwfn.
- Rheol dda yw mai'r gofyniad sylfaenol yw dau grwybr dwfn llawn cyflenwadau o fêl/surop. Os bydd y cyfanswm yn cyfateb i lai na hynny, mae'n bosibl nad oes gan y gwenyn ddigon i bara am bythefnos a'r tro nesaf y byddwch yn archwilio'r nythfa, mae'n bosibl y byddwch yn canfod ei bod wedi marw. Os byddant yn brin o gyflenwadau, bydd angen i chi weithredu ar fyrder, fel y disgrifiwyd uchod.
Weithiau, yn dilyn cyfnod o dywydd gwael, y nythfeydd mwyaf/gorau sy'n wynebu'r risg fwyaf o newynu, yn arbennig yn y gwanwyn pan fyddant yn troi llawer o gyflenwadau yn fag. Gall fod yn dorcalonnus colli'r union nythfeydd a oedd â'r potensial mwyaf i roi cnydau toreithiog o fêl!