Mae gan yr Uned Wenyn Genedlaethol dîm o Arolygwyr Gwenyn Penodedig sydd wedi'u lleoli ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Arolygydd Gwenyn Cenedlaethol yn rheoli gwasanaeth maes sy'n cynnwys wyth Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol sy'n gyfrifol am reoli eu rhanbarthau unigol a thîm o tua saith Arolygydd Gwenyn Tymhorol.
Mae'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen hyfforddi i'r rhanbarth o dan reolaeth yr Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen a Phennaeth yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'r Arolygwyr Gwenyn Cenedlaethol a'r Arolygwyr Gwenyn Rhanbarthol yn cael eu cyflogi'n llawn amser drwy gydol y flwyddyn gyda'r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol yn cael eu cyflogi yn ystod y tymor gwenyna.
Mae pob Arolygydd Gwenyn yn wenynwr ymarferol profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ar sut i adnabod a rheoli plâu a chlefydau gwenyn. Mae arolygwyr hefyd yn rhoi hyfforddiant a chyngor cynhwysfawr ar reoli gwenynfeydd ac arferion hwsmonaeth da. Yn ogystal ag archwiliadau o wenynfeydd, mae Arolygwyr Gwenyn yn helpu gyda gwahanol brosiectau ymchwil a threialon maes.
I gael manylion cyswllt eich Arolygydd Gwenyn lleol ewch i'r dudalen manylion cyswllt.
Pa bwerau cyfreithiol sydd gan Arolygwyr Gwenyn APHA?
Mae gan Arolygwyr Gwenyn APHA ac unigolion awdurdodedig penodedig eraill o dan Ddeddf Gwenyn 1980, Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 1982 (a ddisodlwyd yn ddiweddar gan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006) a Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (TARP) 2011, yr awdurdod i wneud y canlynol:
- Mynd i mewn i safle lle y credir bod gwenyn, cychod, cyfarpar, dyfeisiau a chynhyrchion gwenyn yn cael eu cadw;
- Archwilio'r eitemau hyn a chymryd samplau er mwyn nodi p'un a ydynt wedi'u heintio ai peidio;
- Marcio unrhyw gwch neu gyfarpar at ddibenion ei adnabod;
- Dinistrio nythfeydd sydd wedi'u heintio â Chlefyd Americanaidd y Gwenyn neu Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn;
- Trin nythfeydd sydd wedi'u heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn.