Cychod paru cnewyllol
Defnyddir tri math o gychod paru cnewyllol yn gyffredin yn yr Uned Wenyn Genedlaethol, sef: cwch paru cnewyllol Apidea, sef cwch paru cnewyllol dwyffordd a ddyluniwyd yng Ngwlad Pwyl a'r cwch cnewyllol mwy traddodiadol sydd â phum ffrâm. Dengys y llun ar y dde cell brenhines yn cael ei chyflwyno yng nghanol ffrâm o fag sy'n deor mewn nythfa gnewyllol â phum ffrâm. Mae gosod y gell wrth ochr y mag sy'n deor yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff y gell ei derbyn gan y nythfa.
Mae'r egwyddorion sylfaenol a ddilynir gennym wrth reoli ein gwenynfeydd paru fel a ganlyn: mynedfeydd bach er mwyn osgoi dwyn, digon o fwyd ac, os ydych yn defnyddio cwch cnewyllol â phum ffrâm, mae storfeydd wedi'u selio yn well ac yn arwain at lai o ddwyn o gymharu â surop siwgr, cychod cnewyllol wedi'u gosod â'r mynedfeydd yn wynebu cyfeiriadau gwahanol er mwyn osgoi drifftio, gosod celloedd breninesau yn y cychod cnewyllol 1-2 ddiwrnod cyn iddynt ddeor, nythfeydd 'mam gwenyn gormes' a ddewiswyd mewn gwenynfeydd oddi amgylch ac rydym yn gadael llonydd iddynt am tua 2-3 diwrnod cyn edrych i weld a yw'r breninesau wedi'u paru'n iawn. Ar yr adeg hon, mae'n bosibl edrych yn y cwch i weld a yw'r patrymau mag yn dda.
Ffrwythloni artiffisial
Mae'r UWG hefyd yn defnyddio Ffrwythloni Artiffisial (neu Ffrwythloni ag Offer II) at sawl diben: Yn bennaf ar gyfer ymchwil, e.e., o fewn y "Queens project" a ariennir gan Waterloo, ond hefyd ar gyfer hyfforddi a bridio stociau a ddewiswyd. Mae wedi bod yn un o sgiliau allweddol yr UWG ers dros 20 mlynedd.
Cyfraddau Derbyn
Mae'r dull Magu Breninesau a ddefnyddir gan yr UWG yn gweithio'n dda iawn gyda chyfraddau derbyn o tua 80% ar gyfer celloedd a impiwyd a chyfradd lwyddo o tua 80% ar gyfer breninesau terfynol a gynhyrchwyd o'r celloedd hyn. O'r 8112 o gelloedd a fagwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, llwyddwyd i gynhyrchu 6550 o gelloedd breninesau a esgorodd ar 5240 o freninesau a barwyd yn llwyddiannus. Mae hynny'n eithaf da o ystyried hinsawdd y DU.