Helpu gwenynwyr i ddysgu sgiliau newydd
Yn aml, gall mentora fod yn fuddiol iawn i wenynwyr newydd er mwyn eu cefnogi yn ystod y blynyddoedd cynnar pan fyddant yn dysgu am wenyn ac arferion cadw gwenyn. Gall ffrind cefnogol sy'n barod i drafod pryderon neu heriau dawelu meddwl rhywun. Yn y pen draw, gall ddylanwadu ar benderfyniad rhywun i barhau i gadw gwenyn neu roi'r gorau i'r grefft. Fodd bynnag, gall mentora un i un traddodiadol olygu llawer o adnoddau i gymdeithas. Mae rhai cymdeithasau wedi ystyried ffyrdd eraill o roi cymorth i wenynwyr newydd.
Mae'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn wedi casglu astudiaethau achos sy'n esbonio profiadau cymdeithasau sy'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau mentora i gefnogi eu gwenynwyr drwy'r ychydig dymhorau cyntaf.
[dolen i'r astudiaethau achos]
Efallai y bydd gwybodaeth ddefnyddiol i chi yn y Fframwaith Mentora hefyd.