Darperir cymorth gwyddonol a diagnostig gan Fera Science Limited. Fera Science Limited yw'r Labordy Cyfeirio Cenedlaethol dynodedig ar gyfer iechyd gwenyn ym Mhrydain Fawr, fel y nodir yn erthyglau 100 a 101, o'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625 (OCR) a gedwir. Fel y cyfryw, mae'r Labordy Cyfeirio Cenedlaethol (Fera Science Ltd) wedi'i achredu i safon ISO 17025 ar gyfer diagnosio samplau o glefyd y gwenyn. Mae'r tîm diagnostig yn darparu gwasanaeth diagnostig modern a chyflym ar gyfer Arolygiaeth yr UWG a gwenynwyr.
Cynhelir profion diagnostig yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd gan yr Office International des Epizooties (OIE), a elwir bellach yn Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd. Yr OIE yw'r sefydliad byd-eang sy'n gyfrifol am safoni profion diagnostig ar gyfer plâu a chlefydau sy'n effeithio ar anifeiliaid ac mae'n goruchwylio'r rheolau ar gyfer masnach.
Diagnosio Clefydau Gwenyn
Mae nifer o blâu a chlefydau yn effeithio ar wenyn mêl, gyda rhai ohonynt yn effeithio ar y mag sy'n datblygu ac eraill yn effeithio ar y gwenyn llawndwf. Mae clefyd Americanaidd y gwenyn a chlefyd Ewropeaidd y gwenyn yn ddau glefyd bacterol difrifol sy'n effeithio ar fag gwenyn mêl ac mae'r ddau yn glefydau hysbysadwy o dan Orchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006. Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod am glefyd y gwenyn os amheuir ei fod yn bresennol mewn nythfa; i gael rhagor o wybodaeth am adnabod arwyddion o glefyd y gwenyn, darllenwch ein taflen gynghorol ar glefyd y gwenyn.
Bydd Arolygwyr Gwenyn Penodedig yn archwilio nythfeydd gwenyn mêl yn y maes am arwyddion o glefyd Americanaidd y gwenyn a chlefyd Ewropeaidd y gwenyn. Gellir profi nythfeydd yr amheuir eu bod wedi'u heintio â chlefyd Americanaidd y gwenyn neu glefyd Ewropeaidd y gwenyn am bresenoldeb y bacteria achosol, Paenibacillus larvae (Pl) a Melissococcus plutonius (Mp) yn y drefn honno, gan ddefnyddio dyfais llif unffordd ar larfa yr amheuir ei fod wedi'i heintio yn y maes. Fel arall, gellir anfon samplau larfaol i'r labordy, lle y cânt eu profi am bresenoldeb Mp a PI yn ficrosgopig. Mae samplau a gyflwynir gan Arolygwyr Gwenyn Penodedig i'r labordy yn samplau statudol, ond gall gwenynwyr gyflwyno samplau gwirfoddol.
Ar ôl i bresenoldeb Mp a PI gael ei gadarnhau, cynhelir profion teipio dilyniannau ar y samplau. Caiff DNA ei dynnu o bob sampl o glefyd Americanaidd y gwenyn a chlefyd Ewropeaidd y gwenyn a gyflwynwyd i'r labordy a chynhelir prawf Adwaith Cadwynol Polymerasau i chwyddo rhannau penodol o DNA bacterol at ddibenion dilyniannu a chynnal dadansoddiad Teipio Dilyniannau Aml-locws. Mae'r dadansoddiad hwn yn ei gwneud yn bosibl i'r bacteria sy'n gysylltiedig ag achos o glefyd gael eu nodi i lefel y straen. Dysgwch fwy am y ffordd y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio ar gyfer ymchwil i'r ffordd y trosglwyddir clefyd Ewropeaidd y gwenyn ar ein tudalen prosiectau ymchwil.
Plâu Egsotig
Mae dwy rywogaeth o bla egsotig sy'n peri risg sylweddol i ddiwydiant gwenyna'r DU, er nad ydynt yn bresennol yn y DU ar hyn o bryd. Am y rheswm hwn, mae'r plâu hyn yn rhai hysbysadwy statudol ac mae'r UWG yn cynnal rhaglen gwyliadwriaeth i fonitro eu presenoldeb.
Y plâu hysbysadwy statudol hyn yw chwilen fach y cwch a gwiddon Tropilaelaps spp. Pla cwch gwenyn niweidiol yw chwilen fach y cwch, Aethina tumida, a gafodd ei fewnforio'n ddamweiniol i'r Eidal yn 2015, lle mae'n parhau hyd heddiw. Mae gwiddon Tropilaelaps spp. yn frodorol i Asia, ond nid ydynt wedi'u canfod yn y DU. Fodd bynnag, mae'r gwiddonyn newydd gael ei darganfod yn Ewrop. Os caiff y naill neu'r llall o'r plâu hyn ei gyflwyno i'r DU, gallai achosi niwed economaidd mawr i'r sector gwenyna os bydd yn ymsefydlu.
Mae'r UWG yn gwneud gwaith gwyliadwriaeth weithredol rhag y plâu hyn ac yn anfon malurion llawr a samplau o roliau siwgr i'r labordy yn Fera, lle y cânt eu profi am widdon Tropilaelaps spp a chwilen fach y cwch. At hynny, caiff rhwydwaith o wenynfeydd sentinel eu cynnal gan wenynwyr ledled Cymru a Lloegr, lle y caiff samplau o falurion llawr eu hanfon ohonynt ddwywaith y flwyddyn a'u harchwilio am arwyddion o blâu egsotig.
Anogir gwenynwyr yn gryf i fonitro eu cychod gwenyn eu hunain am bresenoldeb chwilen fach y cwch a gwiddon Tropilaelaps.
Gwenyn a Fewnforiwyd
Caiff gwenyn gweithgar sy'n gweini a fewnforiwyd gyda breninesau o drydydd gwledydd dynodedig, eu hanfon i Fera. Bydd diagnostegwyr yn archwilio'r rhain am bresenoldeb plâu egsotig. Er mwyn dysgu mwy am y broses o fewnforio gwenyn mêl yn ddiogel a helpu i osgoi cyflwyno plâu goresgynnol i mewn i'r DU, gweler ein canllawiau ar Mewnforion ac Allforion.
Er mwyn dysgu mwy am brosiectau ymchwil i wenyn mêl sy'n mynd rhagddynt yn Fera Science Ltd, mewn cydweithrediad â'r UWG, gweler y tudalen prosiectau ymchwil.
Er mwyn dysgu mwy am blâu egsotig, darllenwch ein taflenni cynghorol ar chwilen fach y cwch a Tropilaelaps.
Os ydych chi'n amau bod clefyd y gwenyn mewn unrhyw un o'ch nythfeydd, rhaid i chi gysylltu â'r UWG ar unwaith; cysylltwch â ni yma.