Mae'r UWG yn gweithio gyda gwenynwyr ledled Cymru a Lloegr i gasglu amrywiaeth o wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar iechyd gwenynfeydd yn y DU. Bob blwyddyn, mae'r UWG yn anfon yr arolwg hwsmonaeth blynyddol at ddetholiad o wenynwyr sydd wedi'u cofrestru ar BeeBase. Mae'r ymatebion yn ddienw ac mae cyfranogi yn wirfoddol. Nod yr arolwg yw meithrin dealltwriaeth o wahanol agweddau ar hwsmonaeth gwenyn, iechyd gwenyn a hyfforddiant i wenynwyr.
Mae canlyniadau'r arolygon hyn yn darparu gwybodaeth am arferion gwenyna ac yn ein helpu i ddeall statws iechyd cyfredol ein poblogaeth o wenyn mêl.
Pwyntiau Allweddol o'r Arolygon
Un o ddangosyddion allweddol iechyd cyffredinol gwenyn yn genedlaethol yw nifer y nythfeydd a gollir dros y gaeaf. Defnyddir y metrig hwn ar gyfer mesur colledion gwenyn mêl ledled Ewrop gan grŵp monitro COLOSS (Atal colledion gwenyn mêl). Mae defnyddio un metrig i fesur colledion (nythfeydd sy'n gaeafu a gollir) yn golygu bod modd cymharu canlyniadau rhwng gwledydd a rhwng blynyddoedd.
Lefelau colli nythfeydd yn ôl arolwg yr UWG
Gydag arferion rheoli da, disgwylir i oddeutu 10% o nythfeydd gael eu colli fel arfer. Mae'r siart far isod yn dangos canran y nythfeydd a gollwyd dros y gaeaf, fel y'i cofnodwyd yn arolwg yr UWG o wenynwyr yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf. Gan mai arolwg yw hwn, mae'r canlyniadau yn ddangosol yn hytrach na bod yn fesur absoliwt, ond maent yn darparu rhywfaint o wybodaeth am ddynameg colli nythfeydd o flwyddyn i flwyddyn.
Mewn rhai arolygon blaenorol (2015 i 2019), gofynnwyd i'r gwenynwyr pa broblemau roeddent yn eu gweld yn eu nythfeydd. Y problemau mwyaf cyffredin a welwyd oedd nythfeydd yn cael eu hysglyfaethu gan wenyn meirch, feirws adenydd wedi'u hanffurfio, varoossis/syndrom gwiddon parasitig a breninesau sy'n edwino.
Mae gwenyn meirch yn ysglyfaethu nythfeydd yn broblem ddifrifol, gyda bron i draean o wenynwyr yn rhoi gwybod am broblemau gyda gwenyn meirch yn 2018/19. Os ydych wedi cael problemau gyda gwenyn meirch, darllenwch ein ffeithlen ar wenyn meirch, sy'n cynnwys rhai awgrymiadau er mwyn helpu i leihau eu heffaith ar y wenynfa.
Yr un yw achos sylfaenol feirws adenydd wedi'u hanffurfio a varroosis/syndrom gwiddon parasitig, sef y gwiddon parasitig, Varroa destructor. Pla yw varroa y mae angen ei reoli'n barhaus mewn nythfeydd gwenyn mêl, ond mae nifer o dechnegau a chynhyrchion y gellir eu defnyddio i'w reoli. I gael trosolwg cynhwysfawr o sut i fonitro a rheoli gwiddon Varroa, darllenwch ein taflen gynghorol ar reoli Varroa.
Mae breninesau sy'n edwino yn broblem a wynebir gan wenynwyr ledled y DU, Ewrop ac UDA, yn ôl y sôn. Mae'n anodd goresgyn problemau gyda breninesau, am fod yr achosion yn amlffactoraidd ac nad ydynt yn cael eu deall yn dda. Os ydych yn magu eich breninesau eich hun drwy impio, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis larfâu ifanc iawn nad ydynt yn fwy na diwrnod oed gan fod gan freninesau o larfâu sy'n cael eu himpio pan fyddant dros 24 awr oed gyrff llai o faint ac maent yn pwyso llai na breninesau o larfâu wedi'u himpio’n iau, am nad yw'r larfâu hŷn wedi bwyta digon o jeli'r frenhines, yn ôl pob tebyg, sy'n arwain at freninesau o ansawdd is. Wrth gyflwyno breninesau a brynwyd i nythfeydd, dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a ddarparwyd gan y cyflenwr yn ofalus er mwyn sicrhau y caiff y frenhines newydd y siawns orau o lwyddo.
Adroddiadau o arolygon diweddar yr UWG
Arolwg hwsmonaeth 2023
Darparodd cyfanswm o 1517 o wenynwyr atebion i'r arolwg, gan roi cyfradd ddychwelyd o 22%, a darparodd 1452 o wenynwyr wybodaeth am nifer eu nythfeydd rhwng 1 Ebrill 2022 a 1 Ebrill 2023. Yn ystod gaeaf 2022/2023, nododd ymatebwyr eu bod wedi colli 20.9% o'u nythfeydd dros y gaeaf.
Gellir lawrlwytho adroddiad llawn ar ganlyniadau'r arolwg o 2022/23 yma.
Arolwg hwsmonaeth 2022
Darparodd cyfanswm o 1644 o wenynwyr atebion i'r arolwg, gan roi cyfradd ddychwelyd o 25%, a darparodd 1643 o wenynwyr wybodaeth am nifer eu nythfeydd rhwng 1 Ebrill 2021 a 1 Ebrill 2022. Yn ystod gaeaf 2021/2022, nododd gwenynwyr eu bod wedi colli 13% o'u nythfeydd dros y gaeaf.
Gellir lawrlwytho adroddiad llawn ar ganlyniadau'r arolwg o 2021/22 yma.
Arolwg hwsmonaeth 2021
Ni chynhaliwyd arolwg yn 2021 oherwydd effaith pandemig COVID-19.