Ar 10 Mai, canfuwyd cacynen arall ger Four Oaks, Dwyrain Sussex, mewn trapiau y mae'r UWG wedi bod yn eu monitro yn yr ardal. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o bum brenhines wedi'u dal yn yr ardal.
Mae dwy gacynen arall wedi cael eu dal a'u lladd yng Nghaint. Ar 15 Mai, canfuwyd cacynen mewn trap monitro a osodwyd gan wenynwr yn Denton. Ar 16 Mai, canfuwyd cacynen gan aelod o'r cyhoedd yn Etchinghill.
Mae'r sbesimenau wedi cael eu casglu a'u hanfon i'r labordy i'w cadarnhau'n swyddogol a'u dadansoddi.
Ar 21 Mai, ymatebodd yr UWG i adroddiad am gacynen Asia yng Nghaergaint, Caint. Canfuwyd prif nyth yn y lleoliad a symudwyd ymaith ac mae wedi'i anfon i'r labordy i'w gadarnhau'n swyddogol a'i ddadansoddi. Bydd yr UWG yn parhau i fonitro'r ardal am weithgarwch cacwn.
Noder: yn ein diweddariad blaenorol, gwnaethom nodi, yn anghywir, fod Four Oaks a Rye yng Nghaint yn lle Dwyrain Sussex. Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch a achoswyd gan y camgymeriad hwn.
Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina, gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch’ ar gyfer dyfeisiau Apple a dyfeisiau android neu'r ffurflen ar-lein.
Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y cyfryngau at Swyddfa'r Wasg, Defra.