Yn y tudalennau hyn, ceir achosion byw a hanesyddol o glefydau o waith archwilio'r UWG. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau cyfredol ar nythfeydd a gwenynfeydd a archwilir a nifer yr achosion o glefyd y gwenyn ym mhob rhanbarth, adroddiadau blynyddol ar glefyd y gwenyn o bob rhanbarth a graffiau yn dangos tueddiadau clefydau dros amser dros y 10 mlynedd diwethaf.
Ar ein tudalen ar fapiau, gallwch weld nifer y nythfeydd neu wenynfeydd fesul 10km2, yr archwiliadau a gyflawnwyd, yr achosion o glefyd Ewropeaidd y gwenyn neu glefyd Americanaidd y gwenyn a gadarnhawyd, lleoliadau nythod cacwn Asia ac achosion o feirws parlys cronig y gwenyn am unrhyw flwyddyn/flynyddoedd dros y 10 mlynedd diwethaf yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Gallwch hefyd weld adroddiadau byw ar wenyn sy'n cael eu mewnforio i Gymru, Lloegr a'r Alban o wledydd eraill ar ein tudalen mewnforion a phlâu egsotig.