Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Clefydau, plࣙâu a hylendid

Mae gwenyn llawndwf yn agored i amrywiaeth o glefydau neu barasitiaid. I gael gwybodaeth gynhwysfawr am y clefydau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar wenyn llawndwf yn y DU, gan gynnwys adnabod eu harwyddion a sut i'w rheoli, darllenwch ein taflen gynghorol ar glefydau mewn gwenyn llawndwf.

Mae mag gwenyn mêl hefyd yn agored i amrywiaeth o glefydau, yn ogystal â chlefyd y gwenyn. Dysgwch fwy am y clefydau hyn yn ein taflen gynghorol ar glefyd y gwenyn a chlefydau mag eraill.

At hynny, gall plâu megis gwyfynod cwyr achosi difrod i rannau o gychod gwenyn a chwyr. Dysgwch fwy am sut i drin blychau a fframiau cyn eu storio er mwyn atal plâu yn ein ffeithlen ar fygdarthu diliau.

Gwenynen fêl ar blanhigyn Pig yr Aran

Hylendid

Er mwyn helpu i leihau'r risg o gael neu ledaenu plâu a chlefydau, mae hylendid da mewn gwenynfa yn hanfodol. Gall dilyn arferion hylendid atal pathogenau sydd ar lefelau isel yn y wenynfa, nad ydynt o bosibl yn dangos arwyddion clefydau, rhag lledaenu. Gall sefydlu nythfeydd er mwyn atal drifftio hefyd helpu i atal plâu a phathogenau rhag lledaenu. I gael rhagor o ganllawiau ar arferion hylendid mewn gwenynfeydd, darllenwch ein ffeithlen ar hylendid mewn gwenynfeydd.

Atal clefydau rhag lledaenu

Weithiau, er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwenynwr, mae'n bosibl y ceir achosion o glefyd yn y wenynfa. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen defnyddio dulliau sy'n fwy llym na'r rhai a ddefnyddir ar gyfer hylendid arferol. Bydd hyn yn cynnwys glanhau a diheintio cyfarpar yn drylwyr ac, o bosibl, drin neu ddinistrio fframiau cwyr. I gael help i ddiheintio gwenynfa yn dilyn achosion o glefyd, darllenwch ein ffeithlen ar sut i ddiheintio cychod gwenyn yn dilyn clefyd.