Rhywogaethau o Nosema
Mae dwy rywogaeth o Nosema wedi'u nodi mewn gwenyn mêl yng Nghymru a Lloegr, sef Nosema apis a'r rhywogaeth Asiaidd, Nosema ceranae. Mae'r ddwy yn bathogenau ffwngaidd Microsboridiaidd arbenigol iawn. Mae Nosema spp. yn ymosod ar leinin y celloedd treulio ym mherfeddyn canol y wenynen ac yno maent yn lluosogi'n gyflym ac, o fewn ychydig ddiwrnodau, mae'r celloedd yn llawn sborau. Dyma'r ffurf gwsg ar y parasit. Pan fydd y gell letyol yn torri, bydd yn gollwng y sborau i'r perfeddyn lle y byddant yn cronni mewn masau, i'w hysgarthu'n ddiweddarach gan y gwenyn. Os caiff sborau o'r ysgarthion eu codi a'u llyncu gan wenynen arall, gallant egino a dod yn weithredol unwaith eto, gan ddechrau cylch arall o heintio a lluosogi.
Symptomau Nosema
Nid oes gan y clefyd unrhyw symptomau allanol. Gwelir dysentri yn aml mewn cysylltiad â heintiau N. apis; efallai y bydd yn ymddangos fel 'sbotio' ym mynedfa'r cwch neu ar draws y fframiau. Nid yw'r dysentri yn cael ei achosi gan y pathogen ond o ganlyniad i haint a gall gael ei waethygu pan fydd angen cadw'r gwenyn yn y cwch am gyfnod hir yn ystod tywydd garw, yn enwedig yn ystod y gwanwyn. Gall hyn olygu bod y gwenyn yn gorfod ysgarthu yn y cwch gan ei halogi ymhellach.
Yn Sbaen, nodwyd bod heintiau N. ceranae yn cael eu nodweddu gan leihad graddol yn nifer y gwenyn mewn nythfa nes iddi chwalu. Efallai y bydd y gwenynwr yn gweld gostyngiad sylweddol yng nghynhyrchiant nythfeydd hefyd. Yn ystod y cam dirywio terfynol, bydd clefydau eilaidd yn ymddangos yn aml, gan gynnwys 'chalk brood' a Chlefyd Americanaidd y Gwenyn. Yn y pen draw, ni fydd y nythfeydd sydd wedi'u heintio yn cynnwys digon o wenyn i gyflawni tasgau sylfaenol nythfa a byddant yn chwalu. Nid yw marw o flaen y cychod yn symptom o haint N. ceranae a welir yn aml. Nid oes unrhyw achosion o ddysentri nac o weld gwenyn llawndwf yn marw o flaen cychod wedi'u cofnodi ar gyfer heintiau N. ceranae. Gall nythfeydd fethu â thyfu a gallant hyd yn oed edwino. Gall hyn ddigwydd yn gyflym weithiau neu dros sawl mis.
Caiff Nosema ei ledaenu'n hawdd drwy ddefnyddio diliau wedi'u heintio. Gall y sborau barhau i fod yn hyfyw am hyd at flwyddyn. Felly, mae'n bwysig peidio â throsglwyddo diliau wedi'u heintio rhwng nythfeydd ac, fel bob amser, arfer hwsmonaeth ac arferion rheoli gwenynfa da, gan gynnal stociau cryf ac iach, a all wrthsefyll plâu yn well.
Dysentri ar farrau uchaf fframiau
Diagnosio a Thrin
Y dull symlaf o ddiagnosio heintiau yw drwy gynnal archwiliad microsgopig. Gellir nodi N. apis ac N. ceranae mewn samplau o wenyn llawndwf gan ddefnyddio sgrin clefydau safonol ar gyfer gwenyn llawndwf. O dan olau, ymddengys sborau N. apis ac N. ceranae fel cyrff siâp reis gwyn/gwyrdd. Fodd bynnag, mae'r ddwy rywogaeth bron yn union debyg o edrych arnynt gan ddefnyddio microsgop confensiynol ond gall llygad arbenigol wahaniaethu rhyngddynt. Fodd bynnag, mae profion gwahaniaethu mwy manwl gywir ar gael sy'n nodi gwahaniaethau rhwng y ddwy rywogaeth gan ddefnyddio dulliau genetig. Mae ymchwilwyr yn yr UWG, ar y cyd ag aelodau o staff Fera yn yr Uned Technoleg Folecwlaidd, wedi datblygu dulliau sy'n seiliedig ar brofion PCR mewn amser real; dull sensitif a all nodi a mesur lefelau isel o haint pathogen.
Trin â meddyginiaethau
Daeth yr awdurdodiad marchnata ar gyfer Fumidil B i ben ar 31 Rhagfyr 2011. Gellir unrhyw stociau o'r cynnyrch sy'n dal i fodoli hyd at ddiwedd y dyddiad dod i ben a ddangosir ar y deunydd pecynnu. I gael y cyngor diweddaraf ar argaeledd meddyginiaethau, ewch i wefan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Fel gyda phob meddyginiaeth, sicrhewch fod y cyfarwyddiadau ar y label yn cael eu dilyn.
Hwsmonaeth Dda
Yn lle defnyddio meddyginiaethau i drin Nosemosis, dylai gwenynwyr geisio cadw eu nythfeydd yn iach drwy ddefnyddio arferion hwsmonaeth da megis cynnal nythfeydd cryf sy'n cael eu bwydo'n dda, a all oddef clefydau ac sy'n cael eu harwain gan freninesau ifanc ac epiliog. Dylai gwenynwyr hefyd ystyried cyflwyno breninesau newydd i'w cychod, sy'n dod o stociau o wenyn a all wrthsefyll plâu yn well ac a all ymdopi'n well â haint Nosema.
Rhagor o Wybodaeth
- Nosemosis of the Honey bee, OIE Terrestrial Manual 2008 (pdf)
- Erthygl yn Bee Craft: Nosema ceranae, Ion 2008 (pdf)