Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Rydych yn credu eich bod wedi gweld Cacynen felyngoes, felly?

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:

·       Adnabod cacynen felyngoes

·       Rhoi gwybod am gacynen felyngoes rydych yn amau eich bod wedi'i gweld

·       Tynnu llun o bryf a amheuir yn ddiogel

·       Anfon sampl o gacynen felyngoes a amheuir i'r labordy at ddibenion ei hadnabod

Bob blwyddyn, rydym yn cael miloedd o adroddiadau am gacwn melyngoes a amheuir, ond mae'r mwyafrif helaeth o'r pryfed a welir yn rhai brodorol. Darllenwch y canllawiau ar adnabod cacwn melyngoes cyn cyflwyno adroddiad.

Sut i adnabod cacynen felyngoes

Yn groes i'r gred boblogaidd, nid yw cacynen felyngoes oresgynnol (a oedd yn cael ei hadnabod fel cacynen Asia yn flaenorol) yn bryf mawr ac mae'n llai na chacynen Ewrop, sy'n frodorol i'r DU. Mae cacwn Ewrop yn felyn ac yn frown, maent yn fwy o faint ac maent yn gwneud sŵn uchel pan fyddant yn hedfan. Mae cacwn melyngoes yn debyg i wenyn meirch o ran maint, ond maent yn llawer mwy tywyll eu lliw nag unrhyw wenynen feirch frodorol. Dengys y llun isod gacynen felyngoes oresgynnol ar y chwith a chacynen Ewrop frodorol ar y dde.

Cylchred bywyd y gacynen felyngoes, Vespa velutina nigrithorax, gydag amseroedd bras ar gyfer y DU.

Mae llawer o bryfed cyffredin eraill y gellir eu camgymryd am y gacynen felyngoes. Mae'r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron wedi llunio Taflen Adnabod sy'n cynnwys lluniau o bryfed eraill a gaiff eu camgymryd yn aml am gacynen felyngoes. Mae ap ‘Asian Hornet Watch’ hefyd yn cynnwys lluniau o rywogaethau tebyg. Os nad ydych yn siŵr pa bryf rydych wedi'i weld, tynnwch lun a rhoi gwybod amdano, neu gallwch ei drafod â'ch Tîm Cacwn Asia lleol. Er mwyn cael gwybod ble mae eich Tîm Cacwn Asia agosaf, ewch i wefan Tîm Cacwn Asia Cymdeithas Gwenynwyr Prydain. Er mwyn dysgu mwy am Dimau Cacwn Asia, ewch i'n tudalen ar rôl Timau Cacwn Asia.

Sut i roi gwybod am gacynen felyngoes

Os ydych yn credu eich bod wedi gweld cacynen felyngoes, rhowch wybod amdani.  Gallwch roi gwybod am y gacynen felyngoes rydych wedi'i gweld gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

Os nad oes gennych lun o'r gacynen rydych wedi'i gweld, ffôn clyfar y gallwch ei defnyddio na mynediad at gyfrifiadur, neu os oes angen unrhyw fath o gymorth arnoch i roi gwybod am y pryf rydych wedi'i weld, gallwch gysylltu â'ch Tîm Cacwn Asia lleol.

Sut i dynnu llun yn ddiogel

Dim ond os cawn lun clir o'r pryf a amheuir y gallwn ymchwilio i achosion o weld cacwn melyngoes. Mae'n debygol y bydd yn haws i chi dynnu llun o bryf pan fydd yn brysur yn gwneud rhywbeth, er enghraifft, bwyta abwyd siwgraidd ar safle monitro neu ffrwyth sydd wedi cwympo. Mae angen i luniau fod yn glir ac mewn ffocws er mwyn gallu gweld y marciau ar y corff ac adnabod y rhywogaeth. 

Examples of monitoring stations for attracting Asian hornets

Gellid adeiladu safle monitro tebyg gan ddefnyddio hambwrdd neu soser ag ychydig o sudd ffrwyth siwgraidd neu abwyd gwenyn meirch ar y gwaelod. Er mwyn atal pryfed rhag boddi, rhowch liain cegin yn yr hambwrdd i amsugno'r hylif neu eitemau bach y gall pryfed sefyll arnynt er mwyn yfed yr abwyd. Rhowch bwysau ar yr hambwrdd i'w atal rhag cael ei chwythu drosodd; dylai ychydig o gerrig bach fod yn ddigon.  Tra bydd y pryfed yn bwyta, byddant yn llai gweithgar, a bydd modd tynnu lluniau clir. Os byddwch yn defnyddio hambwrdd â chlawr, cadwch y clawr wrth law er mwyn sicrhau, os byddwch yn gweld pryf a amheuir, y gallwch ei ddal yn gyflym y tu mewn drwy selio'r clawr. Am ragor o wybodaeth am sut i adeiladu safle monitro i ddenu pryfed, darllenwch ein ffeithlen ar fonitro cacwn melyngoes.

Cymerwch ofal a pheidiwch â chynhyrfu wrth dynnu lluniau o gacwn. Peidiwch ag aflonyddu ar nyth weithgar na'i phryfocio ar unrhyw gyfrif.

Anfon sampl o gacynen felyngoes

Os byddwch wedi dal pryf a amheuir, cadwch ef, os bydd yn ddiogel i chi wneud hynny. Os na fydd y gacynen yn farw, gallwch ei rhoi mewn rhewgell am 24 awr er mwyn iddi allu cael ei drin yn ddiogel. Rhowch wybod am y sampl gan ddefnyddio ap ar gyfer iPhone neu ap ar gyfer android ‘Asian Hornet Watch’, neu'r ffurflen hysbysu ar-lein. Os byddwch yn rhoi gwybod am gacynen a bod gennych sampl, gallwn drefnu i gasglu'r sampl.

Os gofynnir i chi anfon sampl, gwnewch yn siŵr ei bod yn farw ac yna dylech ei phacio mewn cynhwysydd cadarn a all anadlu (e.e. cardbord). Peidiwch â'i rhoi heb ei diogelu mewn amlen, gan y gallai gael ei gwasgu, a fydd yn gwneud hi'n anoddach i'w hadnabod. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y sampl, megis pryd a ble y cafodd ei chanfod a'ch manylion cyswllt gan ddefnyddio ein ffurflen cyflwyno sampl wirfoddol. Cysylltwch â ni os hoffech gael label ragdaledig.

Anfonwch y sampl i:

Bee Health Laboratory, Lab 02G06, York Biotech Campus, Sand Hutton, York, YO41 1LZ.

Rhagor o wybodaeth

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am achosion o weld cacwn melyngoes yn y DU, darllenwch ein tudalen, Y Diweddaraf am Gacwn 2024. I gael gwybodaeth am achosion o weld cacwn a nythod cacwn a ddarganfuwyd mewn blynyddoedd blaenorol, ewch i dudalen we Defra, achosion o weld cacwn melyngoes a gofnodwyd ers 2016.

Mae'r erthygl hon, a gyhoeddwyd yn BeeCraft yn 2021, yn rhoi canllawiau defnyddiol ar sut i wahaniaethu rhwng cacwn melyngoes goresgynnol a phryfed brodorol a gaiff eu camgymryd yn aml am gacwn melyngoes: Parêd adnabod cacwn Asia.

Mae'r daflen wybodaeth hon, a luniwyd gan Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Cacwn Meirch a Morgrug (BWARS) yn rhoi trosolwg o gacynen Ewrop frodorol: Taflen wybodaeth BWARS ar gacynen Ewrop, Vespa crabro.