Ar hyn o bryd, mae pedair rhywogaeth o widdon Tropilaelaps. O'r rhain, dim ond dwy (Tropilaelaps clareae a Tropilaelaps mercedesaeI) a ystyrir yn widdon sy'n peri risg ddifrifol i wenyn mêl Gorllewinol Apis mellifera (Anderson a Morgan, 2007). Mae'r ddwy yn blâu sy'n achosi niwed economaidd ledled Asia. Mae T. mercedesae yn gyffredin iawn ledled Asia tra bod T. Clareae wedi'i gyfyngu i Ynysoedd Philippines. Gallai'r ddwy ledaenu i ranbarthau tymherus yn y dyfodol. Ystyrir bod y ddwy yn fygythiadau newydd i'r diwydiant gwenyna ledled y byd. Mae effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn y bydd y plâu hyn yn ymsefydlu yn y DU yn cael eu hastudio yn yr Uned Wenyn Genedlaethol. Gweler y tudalennau 'Prosiectau Ymchwil' am ragor o fanylion ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen gynghorol,Tropilaelaps: parasitic mites of honeybees (Saesneg).
Gwiddonyn Tropilaelaps
Cwmpas Daearyddol
Mae cwmpas daearyddol hysbys Tropilaelaps wedi ymestyn yn sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf. Y prif ffactor sy'n cyfyngu ar allu gwiddon egsotig i oroesi a lledaenu yn y DU ar hyn o bryd yw eu dibyniaeth ar gyflenwad bwyd parhaus drwy gydol y flwyddyn o wenyn anaeddfed mewn nythfeydd sy'n cynnwys y parasit. O dan yr amodau hinsoddol presennol, mae gaeafau oed yn atal A. mellifera rhag atgynhyrchu mag ac, felly, byddai unrhyw Tropilaelaps a gyflwynid yn llwgu. Fodd bynnag, bydd hyd yn oed gaeafau ychydig yn fwynach yn y DU, a ragwelir o ganlyniad i gynhesu byd-eang, yn ei gwneud yn bosibl i fag gael ei atgynhyrchu'n ddi-dor. Gwyddom eisoes, mewn llawer o rannau o'r DU, fod mag yn bresennol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys mewn rhannau mwy gogleddol o'r wlad. Mae'r cysylltiad uniongyrchol rhwng hinsawdd/lletywr/parasit yn golygu bod y model Tropilaelaps/gwenyn mêl yn arbennig o berthnasol i senarios newid hinsawdd.
Cylchred bywyd
Mae T. clarae benyw o liw browngoch golau a thua 1.0 mm o hyd x 0.6 mm o led, tra bod y gwrywod bron mor fawr â'r benywod (tua un rhan o dair o faint gwiddonyn Varroa). Mae cylchred bywyd a pharasitiaeth A. mellifera yn debyg i gylchred bywyd a pharasitiaeth Varroa destructor. Mae T. clareae eisoes i'w cael mewn nythfeydd o A. mellifera yn Asia, yn enwedig lle mae nythfeydd yn cynhyrchu mag yn barhaus. Mae gwiddon benyw llawndwf yn mynd i mewn i gelloedd sy'n cynnwys larfâu lle maent yn atgynhyrchu mewn celloedd magu wedi'u selio. Mae'r mam-widdonyn yn dodwy rhwng tri a phedwar wy ar larfau gwenyn llawndwf 48 awr ar ôl i'r celloedd gael eu capio. Mae'r broses ddatblygu yn cymryd tua 6 diwrnod ac mae'r gwiddon llawndwf (gan gynnwys y mam-widdonyn) yn dod allan gyda'r wenynen lawndwf sy'n deor ac yna'n chwilio am letywyr newydd. Mae gwiddon yn symud yn gyflym o amgylch y diliau magu ac, felly, maent yn haws i'w gweld na Varroa, er eu bod yn llawer llai. Mae gan T. clareae gylchred atgynhyrchu byrrach na V. destructor ac, felly, pan fydd y ddwy chwilen yn bresennol yn yr un nythfa, mae poblogaethau T. clareae yn cynyddu'n gyflymach.
Statws Presennol
Ar hyn o bryd, nid yw Tropilaelaps spp. i'w cael yn y DU ond, petaent yn cael eu cyflwyno i'r wlad, gallent achosi niwed sylweddol petaent yn ymsefydlu. Mae'r gwiddonyn yn hysbysadwy yn statudol yng Nghymru a Lloegr o dan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006 a Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006, sy'n golygu os bydd gwenynwr yn amau bod gwiddon Tropilaelaps yn bresennol yn eu nythfeydd, rhaid rhoi gwybod am hynny i'r UWG.
Er mwyn helpu gydag ymdrechion gwyliadwriaeth, mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn cynnal rhaglen wyliadwriaeth ar gyfer plâu egsotig bob blwyddyn mewn gwenynfeydd lle ceir risg, er enghraifft, y gwenynfeydd hynny o amgylch porthladdoedd neu ddepos cludo nwyddau. At hynny, anogir gwenynwyr yn gryf i fonitro eu cychodd yn rheolaidd i weld a ydynt yn bresennol ynddynt. Dylid anfon unrhyw widdon a amheuir ar unwaith i'r Labordy er mwyn iddo ymchwilio iddynt.
Tropilaelaps (ochr dde) a Varroa (ochr chwith)
Cynlluniau wrth Gefn
Dilynwch y dolenni isod er mwyn lawrlwytho ein Cynlluniau wrth Gefn sy'n amlinellu camau gweithredu arfaethedig os caiff Tropilaelaps eu cyflwyno i Gymru neu Loegr:
- Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch Gwenyn a gwiddonyn Tropilaelaps (Cymraeg)
- Cynllun wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps (Saesneg)
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen 'Cynllunio wrth Gefn' ar BeeBase.
Deunydd darllen pellach
I gael rhagor o wybodaeth am y pla hwn, gweler Pennod yr OIE ar widdon Tropilaelaps.