Gall feirysau ymosod ar wahanol gamau datblygu a chastiau o wenyn mêl, gan gynnwys wyau, larfâu, chwilerod, gwenyn gweithgar llawndwf, gwenyn gormes llawndwf a breninesau. Er bod feirysau gwenyn yn parhau fel arfer fel heintiau anamlwg ac nad ydynt yn achosi unrhyw arwyddion gweladwy o glefyd, gallant gael effaith ddifrifol ar iechyd gwenyn mêl a byrhau bywydau gwenyn wedi'u heintio o dan amodau penodol. Er enghraifft, gall nythfeydd sy'n cynnwys cryn nifer o widdon Varroa (Varroa destructor) ac sydd wedi'u heintio â Feirws adenydd wedi'u hanffurfio sy'n gysylltiedig â nhw (DWV) achosi niwed difrifol i iechyd a chynhyrchiant gwenyn mêl. Gall llawer o feirysau heintio gwenyn mêl ond chwe feirws sy'n cael eu cofnodi gan amlaf ledled y byd, sef: Feirws adenydd wedi'u hanffurfio (DWV), Feirws celloedd breninesau du (BQCV), Feirws Sacbrood (SBV), Feirws gwenyn Kashmir (KBV), Feirws parlys acíwt y gwenyn (ABPV) a Feirws parlys cronig y gwenyn (CBPV). Noder, yn achos y DU, fod nifer yr achosion o feirws gwenyn Kashmir yn fach iawn ac na chanfuwyd feirws Parlys Acíwt Israel (IAPV) yn y wlad er bod arolygon helaeth iawn o wenynfeydd wedi'u cwblhau.
Feirws Parlys Cronig y Gwenyn (CBPV)
Gwenyn llawndwf sydd wedi colli blew o ganlyniad i gael eu heintio â'r feirws
Mae'r ffotograff uchod yn enghraifft nodweddiadol o wenynen sydd wedi'i heintio â CBPV, sy'n "sgleiniog ac yn ddu" i gyd. Mae'r gwenyn hyn mewn cychod wedi'u heintio yn aml yn cael eu canfod ar eu pen eu hunain, yn ddisymud a/neu'n ysgwyd ar y barrau uchaf. Pan gaiff mwg ei yrru drwy nythfa, maent yn tueddu i symud i lawr rhwng y fframiau fel y gwna'r gwenyn "normal" eraill. Gall abdomenau fod yn chwyddedig a gall yr adenydd fod yn ddatgymaledig hefyd. Ni allant hedfan ac, felly, gellir eu gweld yn cropian o flaen y cychod.
Nodwyd mai CBPV yw un o achosion parlys mewn gwenyn llawndwf ar ôl iddi gael ei hamau am amser maith mai'r gwiddonyn traceol, Acarapis woodi, a oedd yn achosi'r parlys. Echdynnwyd CBPV o wenyn wedi'u parlysu'n naturiol fel un o'r feirysau cyntaf a gafodd ei arunigo o wenyn mêl ac ers hynny mae wedi'i ganfod mewn gwenyn A. mellifera llawndwf o bron pob cyfandir.
Mae CBPV yn ymosod ar wenyn llawndwf yn bennaf ac achosi dau fath o symptomau ‘‘parlys’’ mewn gwenyn. Nodweddir yr un mwyaf cyffredin gan gryndod annormal yn y corff a'r adenydd, gwenyn yn cropian ar y ddaear am na allant hedfan, abdomenau chwyddedig ac adenydd datgymaledig. Mae'r math arall yn cael ei adnabod drwy bresenoldeb gwenyn di-flew, sgleiniog a du y mae gwenyn gwarchod yn ymosod arnynt ac yn eu hatal rhag dychwelyd i'r nythfeydd wrth fynedfa'r cychod. Gellir gweld y ddau fath o symptomau mewn gwenyn o'r un nythfa. Mae'n bosibl bod yr amrywiad yn symptomau'r clefyd yn adlewyrchu gwahaniaethau ymhlith gwenyn unigol o ran rhagdueddiad a etifeddwyd i luosogi'r feirws.
Gellir gweld fideo sy'n dangos symptomau CBPV isod:
Trin CBPV
Mewn nythfeydd gorlawn, bydd CBPV yn lledaenu'n gyflymach gan y bydd y gwenyn yn dod i gysylltiad â'i gilydd yn amlach – sy'n golygu ei bod yn fwy tebygol y byddant yn rhwbio yn erbyn ei gilydd gan dynnu blew o'u habdomenau. Byddai hyn yn gadael clwyf agored ar y wenynen y gallai'r feirws fynd i mewn iddo a heintio gwenyn iach neu waethygu'r haint ynddynt. O ganlyniad, rydym yn argymell, mewn nythfeydd cryf sy'n dangos arwyddion o CBPV, y dylai gwenynwyr sicrhau bod digon o le drwy ychwanegu llofftydd neu flwch magu ychwanegol a bod y nythfeydd yn cael eu bwydo'n dda. Gall CBPV achosi problemau difrifol ac, os na all nythfa ymladd y feirws ei hun, y dull rheoli a argymhellir yw cyflwyno brenhines newydd o straen sy'n llai agored i CBPV i'r nythfa yn lle'r hen un.
Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio (DWV)
Gwenynen lawndwf ifanc wedi'i heintio â Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio sy'n dangos adenydd crebachlyd, wedi'u hanffurfio nodweddiadol.
Symptomau a Diagnosis
Tra bydd poblogaethau gwiddon Varroa destructor yn cael eu rheoli, bydd DWV yn parhau ar lefelau isel mewn nythfeydd wedi'u heintio heb achosi arwyddion o haint am y gall system imiwnedd gwenyn iach ymdopi ag ef. Fodd bynnag, os bydd poblogaethau gwiddon yn dechrau cynyddu a bod system imiwnedd yn cael ei gwanhau, bydd DWV yn achosi symptomau clinigol mewn chwilerod sy'n datblygu a gall arwain at farwolaeth chwilerod. At hynny, bydd gan wenyn sydd newydd ymddangos o nythfeydd wedi'u heintio â DWV adenydd wedi'u hanffurfio neu annatblygedig a gall fod ganddynt abdomenau chwyddedig a byrrach hefyd, fel y gwelwch yn y llun isod.
Dulliau Trosglwyddo
Mae sawl ffordd y gall DWV gael ei drosglwyddo o'r naill letywr i'r llall, gan gynnwys:
- y gweithgareddau paru rhwng brenhines wyryf iach a gwenynen ormes sydd wedi'i heintio â'r feirws;
- brenhines sydd wedi'i heintio â'r feirws yn dodwy wy wedi'i heintio;
- gweithgareddau bwyta gwenyn, h.y. gwenynen ofal wedi'i heintio â'r feirws yn cynnig bwyd i fag, gwenyn neu'r frenhines sydd heb ei (eu) heintio.
- Gall gweithgareddau bwyta gwiddon Varroa gynyddu lefelau haint mewn lletywr yn sylweddol, am eu bod yn fector ar gyfer llawer o feirysau;
- ar lefel nythfa drwy heidio a'r gwenynwr yn cynyddu nifer y gwenyn
Trin a Rheoli DWV
O'u defnyddio'n gywir, dylai triniaethau a ddefnyddir i reoli gwiddon Varroa reoli DWV sy'n gysylltiedig â'r parasit a'i atal rhag lledaenu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddulliau uniongyrchol o reoli unrhyw feirws sy'n effeithio ar wenyn mêl. Hefyd, mae tystiolaeth i awgrymu y gall dewis a bridio stociau o wenyn a all wrthsefyll y feirws hefyd helpu i reoli'r feirws. Fodd bynnag, ni ellir dibynnu arno ynddo'i hun fel ffordd o reoli'r feirws. .
Gwenynen fêl yn dangos arwyddion o Ffeirws Adenydd wedi'u Hanffurfio