Symptomau a'r Hyn sy'n ei Achosi
Cyfrwng achosol yr haint hwn yw'r organeb Malpighamoeba mellificae. Parasit ungellog ydyw sy'n effeithio ar organau ysgarthu (tiwbynnau Malpighi) gwenyn llawndwf. Mae pob cast yn agored i'r haint, ond anaml y caiff gwenyn gormes a breninesau eu heintio. Caiff gwenyn eu heintio pan gaiff y ffurf gwsg ar y parasit ei llyncu yn ysgarthion gwenyn wedi'u heintio. Yna, bydd y parasit yn egino ac yn ymosod ar y tiwbynnau Malpighi lle y bydd yn lluosogi ar draul celloedd ysgarthu'r wenynen. Bydd systiau yn mynd i mewn i'r rectwm i'w gollwng gyda'r ysgarthion.
Dim ond drwy gynnal archwiliad microsgopig i nodi'r systiau amebig y gellir gwneud diagnosis positif o M. millificae. Awgrymwyd bod heintiau M. millificae yn gysylltiedig â nythfeydd yn edwino yn y gwanwyn, dysentri a byrhau hyd oes gwenyn wedi'u heintio. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu hyn ac nid yw effaith haint yn gwbl hysbys. Yn aml iawn mae heintiau M. mellificae yn cael eu canfod mewn cysylltiad â Nosemosis ac mae'n debygol y bydd haint deuol yn fwy niweidiol i iechyd gwenyn mêl.
Trin a Rheoli
Mae hylendid ac arferion rheoli da yn allweddol i reoli lledaeniad yr organeb, fel gyda Nosema a heintiau eraill. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynhyrchion masnachol cymeradwy wedi'u cofrestru ar gyfer rheoli M. mellificae yn y DU. Fodd bynnag, efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol i leihau'r risg y caiff nythfeydd eu heintio.
Dylech roi'r gorau i fwydo gwenyn yn yr hydref cyn i'r tywydd ddechrau oeri er mwyn rhoi amser i'r nythfa fynd â'r surop siwgr i lawr a lleihau'r cynhwysiad dŵr i lefel ddiogel;
Dylech osgoi rhoi surop a mêl wedi'u heplesu i'r gwenyn;
Os byddwch yn gwneud eich surop siwgr eich hun, defnyddiwch swcros puredig neu siwgr bwrdd gwyn. Peidiwch â defnyddio siwgr coch. Fel arall, rhowch surop parod i'r gwenyn, megis Ambrosia, Apisuc neu'r hyn sy'n cyfateb iddo;
Newidiwch y diliau mewn cwch yn rheolaidd a cheisiwch osgoi defnyddio diliau sy'n fwy na 3 blwydd oed. Gellir sterileiddio diliau newydd o nythfeydd wedi'u heintio ag asid asetig. Gweler y ffeithlen, 'Glanhau a Sterileiddio Cychod Gwenyn' am wybodaeth am sut i gynnal y weithdrefn hon.