Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Rôl Timau Cacwn Asiaidd (AHTs)

Creodd Cymdeithas Gwenynwyr Prydain a Chymdeithas Gwenynwyr Cymru a'r cymdeithasau sy'n aelodau ohonynt, rwydwaith Timau Cacwn Asia i weithio mewn partneriaeth â'r UWG er mwyn helpu i nodi achosion posibl o weld cacwn melyngoes a chodi ymwybyddiaeth o'r cacwn mewn cymunedau. Gallwch ddod o hyd i'ch Tîm Cacwn Asia lleol ar y map o Dimau Cacwn Asia yng ngwefan Cymdeithas Gwenynwyr Prydain.

Mae pum ffordd y mae Timau Cacwn Asia yn chwarae rôl hanfodol ledled y DU drwy fonitro ac atal achosion o gacwn melyngoes yn ymsefydlu. Maent yn cydweithio i wneud y canlynol:

1.    Codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gwenynwyr
2.    Monitro cacwn melyngoes drwy gydol y flwyddyn 
3.    Ymchwilio i achosion posibl o weld cacwn melyngoes
4.    Cefnogi'r ymateb brys pan fydd achosion o weld cacwn melyngoes wedi'u cadarnhau
5.    Helpu gyda mesurau gwyliadwriaeth yn dilyn ymateb brys

1. Codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gwenynwyr

Gall Timau Cacwn Asia helpu drwy ymgysylltu â phobl a gwenynwyr er mwyn rhoi gwybod iddynt am gacwn Asia, eu helpu i adnabod cacwn melyngoes a sicrhau bod pawb yn gwybod sut i roi gwybod os byddant wedi gweld cacwn melyngoes. Am ganllawiau clir ar sut i adnabod cacwn melyngoes, darllenwch y daflen adnabod neu'r poster A4 a luniwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron; gallwch lawrlwytho, argraffu a dosbarthu'r adnoddau hyn am ddim. Gellir archebu copïau A4 print gan swyddfa'r UWG drwy anfon neges e-bost i Ymholiadau Cyffredinol

Asian hornet ID literature

Gall Timau Cacwn Asia helpu pobl i roi gwybod os byddant wedi gweld cacwn melyngoes gan ddefnyddio'r ap Cacwn Asia, (Android drwy Google Play neu IOS drwy Apple iTunes), e-bost, neu'r Ffurflen Hysbysu Ar-lein. Gall unigolion annog eraill i ychwanegu ap 'Asian Hornet Watch' at eu ffonau, megis ffrindiau, perthnasau, cymdogion, cydweithwyr neu gymdeithasau lleol, h.y. cerddwyr, gwylwyr adar, clybiau garddio, ysgolion, pobl sy'n mynd â chŵn am dro, ac ati.

2. Monitro cacwn melyngoes drwy gydol y flwyddyn

Ceir ardaloedd yn y DU y mae cacwn melyngoes yn fwy tebygol o ymsefydlu ynddynt. Mae'r mannau lle ceir risg yn cynnwys:

•    porthladdoedd,
•    llwybrau dosbarthu o Ewrop gan gynnwys parciau lorïau neu warysau, 
•    ardaloedd lle mae cacwn melyngoes wedi'u canfod yn flaenorol.

Gall Timau Cacwn Asia helpu gyda gwaith monitro, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sy'n wynebu risg lle mae cadw gwyliadwriaeth yn arbennig o bwysig. Mae'n well gosod safleoedd monitro a thrapiau dethol mewn ardaloedd heulog lle y gellir arsylwi arnynt yn aml. Cânt eu gosod mewn lleoliad megis:

•    gartref wrth ymyl ffenestr; 
•    mewn gweithle;
•    ar lwybr a ddefnyddir yn rheolaidd gan bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro.

Asian hornet monitoring stations

Dim ond yn y gwanwyn y dylid defnyddio trapiau dethol a dylid defnyddio safleoedd monitro ag abwyd o ddechrau'r haf ymlaen. Dylid edrych ar drapiau yn rheolaidd i weld a oes unrhyw infertebratau heb eu targedu wedi'u dal ynddynt a'u bod wedi'u gosod mewn ffordd sy'n caniatáu iddynt ddianc neu'n eich galluogi i'w rhyddhau'n hawdd. Mae trapiau angheuol yn lladd pryfed buddiol ac ni ddylid eu defnyddio. Am ragor o fanylion am sut i ddefnyddio trapiau dethol a safleoedd monitro i fonitro cacwn melyngoes, darllenwch ein taflen gynghorol ar fonitro cacwn melyngoes.

Wrth i'r tymhorau newid, mae cylchred bywyd cacynen Asia yn newid hefyd ac mae gweithgareddau monitro gwahanol yn briodol ar adegau gwahanol:

Tymor Gweithgarwch Cacwn melyngoes Awgrymiadau ar gyfer monitro
Gwanwyn Mae breninesau sy'n ymddangos ar ôl gaeafgwsg ym mis Mawrth a mis Ebrill. Rhaid iddynt chwilota am fwyd er mwyn cael yr egni a'r deunydd sydd eu hangen arnynt i ddechrau eu nyth.

Gellir defnyddio trapiau monitro dethol i ddal breninesau sy'n ymddangos. Wedi'u gosod mewn ardal heulog, sy'n llawn planhigion cynhyrchu neithdar. Rhaid edrych ar drapiau dethol yn rheolaidd er mwyn rhyddhau pryfed brodorol.

 

Bydd breninesau sydd newydd ymddangos yn chwilio am rywle i greu eu nyth sylfaenol

Edrychwch mewn unrhyw leoedd gorchuddiedig, mewn siediau a garejis neu o dan fargodion i weld a oes unrhyw nythod newydd eu ffurfio, yn arbennig ar arfordir De Lloegr neu unrhyw le mae cacwn wedi'u canfod mewn blynyddoedd blaenorol. Mae cacwn melyngoes yn dychwelyd i'w nyth gyda'r nos. Felly, gallwch weld y pryf sy'n gysylltiedig â nyth sylfaenol gyda'r hwyr.

Haf Mae poblogaethau cacwn yn cynyddu'n gyflym. Mae angen protein ar gacwn a gallant ysglyfaethu gwenynfeydd yn arbennig yn ystod mis Gorffennaf neu fis Awst. Defnyddiwch safle monitro yn hytrach na thrap i gadw golwg am gacwn Asia. Bydd hyn yn lleihau nifer yr infertebratau heb eu targedu sy'n marw'n ddiangen ar ôl cael eu dal mewn trapiau. 
 

Gellir gweld cacwn: yn ysglyfaethu yn nhu blaen cychod gwenyn, yn bwyta neithdar a phryfed ar blanhigion sy'n blodeuo,yn bwyta'r pryfed sy'n ymweld ag eiddew sy'n blodeuo.

Cadwch lygad am gacwn melyngoes pan fyddwch allan yn cerdded neu'n ymweld â'r wenynfa.

Hydref Mae cacwn yn fwy tebygol o chwilota am ffynonellau siwgr gan gynnwys neithdar, ffrwythau a ffrwythau sydd wedi cwympo (h.y. grawnwin, gellyg ac afalau).

Cadwch lygad am gacwn melyngoes sy'n bwyta: Ffrwythau a ffrwythau sydd wedi cwympo, Eiddew sy'n blodeuo.

Gaeaf

Bydd breninesau wedi'u ffrwythloni yn dod o hyd i leoedd i aeafu nes i'r tywydd gynhesu yn y gwanwyn.

Dylech barhau i ddefnyddio safleoedd monitro ym mis Hydref a mis Tachwedd; mae nythod wedi cael eu canfod mor hwyr â chanol mis Tachwedd.

  Mae pob cast cacynen arall yn marw

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n bosibl y bydd nythod i'w gweld mewn coed collddail a dylid rhoi gwybod am unrhyw nythod cacwn melyngoes a amheuir drwy anfon llun i ap 'Asian Hornet Watch'; er mai dim ond ar sail lluniau sy'n dangos y pryfed gyda'r nyth y gallwn weithredu. I gael help i adnabod nythod cacwn melyngoes, darllenwch ein ffeithlen

Os ydych wedi'ch cofrestru ar BeeBase a'ch bod yn defnyddio trapiau neu safleoedd monitro i fonitro cacwn melyngoes, gallwch ddiweddaru manylion eich gwenynfa er mwyn cynnwys y wybodaeth hon. Mewngofnodwch i BeeBase a dewiswch 'Fy Ngwenynfeydd' ar frig y sgrin. Byddwch yn gweld manylion pob gwenynfa ac yn gallu clicio ar ‘Golygu Gwenynfa’ er mwyn diweddaru'r manylion i nodi bod trapiau monitro wedi'u gosod.

3. Ymchwilio i achosion posibl o weld cacwn melyngoes

Dim ond achosion o weld cacwn melyngoes y rhoddwyd gwybod amdanynt sy'n cynnwys 
•    manylion cyswllt yr unigolyn sy’n cyflwyno'r adroddiad,
•    llun o'r gacynen
•    y man lle y'i gwelwyd,
y gall yr Uned Wenyn Genedlaethol ymchwilio iddynt.

Gall rhywun y mae eisiau help arno mewn perthynas â'i achos o weld cacynen Asia, gysylltu â Thîm Cacwn Asia. Pan fydd unigolyn yn rhoi gwybod ei fod wedi gweld cacynen Asia, anfonir neges e-bost ato sy'n cynnwys canllawiau ar sut i dynnu llun yn ddiogel a sut i gysylltu â'i Dîm Cacwn Asia lleol. Wrth gysylltu â'r Tîm Cacwn Asia, gall ofyn am help i adnabod y pryf.

Os bydd y Tîm Cacwn Asia o'r farn bod yr adroddiad yn gredadwy, bydd yn codi ymwybyddiaeth yn yr ardal leol ac yn gofyn i bobl fonitro'n lleol fel y nodwyd uchod.


Pan fydd Timau Cacwn Asia yn ymchwilio i achosion posibl o weld cacwn melyngoes fel hyn, mae'n rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar dracio cacwn melyngoes sy'n hedfan a dinistrio nythod.
Gall Cymdeithasau/Timau Cacwn Asia hefyd helpu'r cyhoedd drwy wneud y canlynol: 

4. Cefnogi ymateb brys

Pan gaiff ymateb brys ei sbarduno, anfonir rhybuddion drwy'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn, BeeBase News a thudalen Defra ar achosion o weld cacwn melyngoes a gadarnhawyd.

Yn ystod sefyllfa ymateb, gall Timau Cacwn melyngoes gefnogi gwaith yr UWG mewn sawl ffordd drwy weithio gyda'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol/Tymhorol lleol i wneud y canlynol:

1.    Monitro a gosod trapiau dethol neu safleoedd monitro, fel y bo'n briodol i'r ardal leol, yn ddelfrydol lle y gellir edrych arnynt yn rheolaidd. Gall gwaith monitro gynnwys edrych ar borthiant lleol am hyd at awr er mwyn cadw golwg am weithgarwch cacwn melyngoes.
2.    Cefnogi gwenynwyr ac aelodau o'r cyhoedd sy'n gofyn am help i fonitro.
3.    Cofnodi'r defnydd o drapiau a safleoedd monitro mewn gwenynfeydd ar BeeBase. 
4.    Trefnu gwirfoddolwyr/timau lleol i osod safleoedd monitro a thrapiau mewn ardaloedd risg uchel.
5.    Cydgysylltu adborth (os oes angen) o weithgareddau monitro, er mwyn sicrhau y rhoddir gwybod am y canlyniadau.
6.    Mynd i gyfarfodydd â'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol/Tymhorol lle mae cacwn melyngoes wedi'u canfod er mwyn cytuno ar y camau nesaf.

An asian hornet at a monitoring station

5. Cymorth yn dilyn ymateb brys

Ar ôl i nyth Cacwn melyngoes gael ei difa, mae gwyliadwriaeth yr UWG yn parhau yn yr ardal er mwyn nodi a oes unrhyw nythod eraill yn bresennol. Mae gwyliadwriaeth yn cynnwys defnyddio trapiau monitro ger porthiant a safleoedd nythod sydd wedi'u symud ymaith. Gall Timau Cacwn Asia ymestyn mesurau gwyliadwriaeth yr UWG drwy fonitro ardal ehangach am fwy o amser.

Caiff unigolion a nythod cacwn melyngoes a ganfyddir yng Nghymru a Lloegr eu dadansoddi er mwyn deall y canlynol:
•    Eu cast; Ai brenhines, cacynen ormes neu gacynen weithgar ydyw,
•    A ydynt yn perthyn yn enetig i gacwn eraill a ganfuwyd.

Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall y risg bosibl bod nythod eraill mewn ardal nad ydynt yn hysbys i ni, neu a allai nyth fod wedi rhyddhau breninesau i'r amgylchedd, a allai ffurfio nyth y gwanwyn canlynol.