Mae clefyd Americanaidd y gwenyn yn haint hysbysadwy statudol sy'n effeithio ar wenyn mêl. O dan y gyfraith mae'n ofynnol i unrhyw wenynwr yng Nghymru neu Loegr sy'n amau bod clefyd Americanaidd y gwenyn yn bresennol mewn nythfa y mae'n gyfrifol amdani, hysbysu'r UWG.
Achosir clefyd Americanaidd y gwenyn gan facteriwm, a elwir yn Paenibacillus larvae. Fel gyda chlefyd Ewropeaidd y gwenyn, mae'r bacteria hyn yn bathogen a geir yn y perfedd, ond yn wahanol i glefyd Ewropeaidd y gwenyn, mae clefyd Americanaidd y gwenyn yn wenwynig iawn a bydd yn lladd pob larfa a gaiff ei heintio. Bydd rhai straeniau yn lladd y larfâu o fewn dau i dri diwrnod, tra gallai straeniau eraill gymryd hyd at 14 diwrnod. Gall clefyd Americanaidd y gwenyn ffurfio sborau. Mae sborau yn ffurf gwsg ar y bacteria sy'n gryf iawn yn yr amgylchedd a gallant wrthsefyll tymheredd a lleithder eithafol. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd dileu sborau clefyd Americanaidd y gwenyn.
Mae'r dudalen hon yn disgrifio rhai o arwyddion clefyd Americanaidd y gwenyn. I gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o glefyd Americanaidd y gwenyn mewn gwenyn mêl, gan gynnwys sut i adnabod arwyddion clefyd Americanaidd y gwenyn a gwahaniaethu rhwng y clefyd hwn a chlefydau mag eraill, darllenwch ein taflen gynghorol ar glefyd y gwenyn mewn gwenyn mêl.
Mae arwyddion o glefyd Americanaidd y gwenyn yn cynnwys y canlynol:
Mae capiau cwyr iach yn sych ac o liw bisgeden wenith ond, pan fydd nythfa wedi'i heintio â chlefyd Americanaidd y gwenyn, bydd y capiau yn mynd yn grebachlyd ac yn dywyll wrth i'r mag sy'n datblygu farw. Bydd gwenyn llawndwf yn cnoi tyllau yn y capiau er mwyn ceisio tynnu'r larfâu wedi'u heintio oddi tanynt. |
|
Efallai y bydd rhai capanau yn mynd yn llaith neu bydd golwg seimllyd arnynt a byddant ychydig yn dywyllach eu lliw na chelloedd eraill. I ddechrau, mae'n bosibl mai dim ond nifer bach iawn o gelloedd a fydd yn dangos arwyddion o glefyd a bydd y nythfa yn ymddangos yn normal fel arall. |
|
Yn y pen draw, caiff llawer o'r mag wedi'i selio ei heintio â'r clefyd, gan achosi patrwm mag tameidiog neu 'felin bupur'. Yna, efallai y bydd aroglau annymunol sy'n gysylltiedig â phydru. |
|
Y tu mewn i'r capanau crebachlyd, mae'r gweddillion yn frown golau i frown tywyll. Os caiff coes matsien ei rhoi i mewn i gapan cell tywyll, llysnafeddog yr olwg a'i thynnu allan yn araf, gellir tynnu'r gweddillion allan mewn edau neu 'raff' frown debyg i fwcws rhwng 10 a 30mm o hyd. Mae hwn yn brawf dibynadwy i gadarnhau presenoldeb Clefyd Americanaidd y Gwenyn. |
|
Bydd sychu pellach yn arwain at y cam olaf, sy'n frown tywyll iawn, cen eithaf garw ar ochr is y gell gysylltiedig sy'n ymestyn o ychydig y tu ôl i geg y gell yn ôl i'r bôn. Mae'n haws gweld y cen os caiff y crwybr ei ddal yn wynebu'r golau: maent yn adlewyrchu'r golau o'u harwynebau garw a gellir eu gweld yn hawdd, hyd yn oed pan fydd eu lliw bron yr un peth â'r crwybr ei hun. |
Er mwyn rhoi gwybod am achos o glefyd Americanaidd y gwenyn a amheuir, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl: nbu@apha.gov.uk
Rhagor o Wybodaeth
Caiff clefyd Americanaidd y gwenyn ei reoli o dan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu (Lloegr) 2006: https://www.legislation.gov.uk/uksi/2006/342/contents/made
I ddysgu mwy am gyffredinrwydd a dosbarthiad clefyd Americanaidd y gwenyn yng Nghymru a Lloegr, darllenwch ein tudalen ar achosion o glefydau: https://www.nationalbeeunit.com/cy/clefydau-a-phlau/adroddiadau-siartiau-a-mapiau/achosion-o-glefydau/