Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Anhwylderau eraill ymhlith mag

Ceir nifer o glefydau ac anhwylderau mag eraill sy'n gyffredin, er eu bod yn llai difrifol na chlefyd y gwenyn. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu adnabod y rhain a gwahaniaethu rhyngddynt a chlefyd y gwenyn. Mae'n bwysig y gall gwenynwyr eu hadnabod a gwahaniaethu rhyngddynt a chlefydau eraill. 

Sacbrood

Mae feirws 'sacbrood' yn feirws cyffredin ledled y byd ac fe'i ceir ym mhob rhan o'r DU. Mae'r feirws hwn mor gyffredin fel bod y rhan fwyaf o wenynwyr yn debygol o ddod ar ei draws rywbryd. Yn y DU, feirws 'sacbrood' oedd un o'r tri chlefyd mwyaf cyffredin a ganfuwyd ('chalkbrood' a syndrom gwiddon parasitig oedd y ddau arall) yn ystod arolygiadau a gynhaliwyd gan yr UWG rhwng 2006 a 2016. Yn y rhan fwyaf o nythfeydd heintiedig, nifer cymharol fach o larfâu sydd ag arwyddion gweladwy o haint ac anaml y mae'n achosi niwed mesuradwy.

Achos

Caiff y feirws ei ddyblygu yn chwarennau hypoffaryngeal gwenyn llawndwf wedi'u heintio. Gall fyrhau hyd oes gwenyn llawndwf ond nid yw'n achosi unrhyw symptomau gweladwy. Yna, maent yn secretu'r feirws i'r bwyd y maent yn ei roi i'r larfâu sy'n datblygu, a gaiff eu heintio pan fyddant yn llyncu'r bwyd wedi'i heintio. Mae larfâu yn agored i gael eu heintio nes eu bod yn wyth diwrnod oed. Mae'r feirws yn eu hatal rhag diosg eu cwtigl (croen) larfaol olaf, gan achosi i hylif gronni rhwng corff y larfa a'i groen heb ei ddiosg, sy'n arwain at farwolaeth y larfâu. Fel arfer, ni fydd yn achosi colledion difrifol mewn nythfa. 

Adnabod arwyddion feirws 'sacbrood'

Mae feirws 'sacbrood' yn achosi symptom digamsyniol larfâu ar ffurf gondola yn ymwthio o'u celloedd. Nid yw larfâu sydd wedi'u heintio â feirws 'sacbrood' yn chwilera ac maent yn marw ychydig ar ôl iddynt gael eu capio. Am fod y feirws yn atal larfâu rhag diosg eu croen, mae eu cyrff yn llenwi â hylif. Os caiff y gweddillion larfaol eu torri, mae'r cynnwys yn hylif gronynnog brownaidd a, fwy neu lai, ddyfrllyd, yn dibynnu i ba raddau y mae'r larfa wedi dadelfennu.

Mae croen allanol y larfâu heintiedig yn mynd yn dew a gellir ei dynnu'n hawdd o'r gell yn gyflawn.  Mae'n cyffredin canfod celloedd heb eu capio yn cynnwys larfâu sydd wedi marw o achos 'sacbrood' gan y bydd y gwenyn yn tynnu capiau'r celloedd ac yn ceisio tynnu'r larfâu heintiedig. Yn aml, mewn celloedd wedi'u capio lle mae'r larfa wedi marw o achos 'sacbrood', bydd y capiau wedi'u cnoi gan y gwenyn. Mae'r larfâu heintiedig yn colli eu lliw gwyn fel perl ac yn troi'n felyn ystod y camau dadelfennu cyntaf. 

Wrth i'r broses ddadelfennu fynd yn ei blaen, mae'r gweddillion yn troi'n frown ac yn dechrau sychu. Ar y camau olaf, bydd y larfâu yn pydru'n gen brown, sych. 

Mae un larfa heb ei gapio yn ymwthio allan o gell fagu wrth ochr mag wedi'i gapio. Mae larfa 'sacbrood' yn cael ei ddal i fyny gan ddefnyddio gefel fach i ddangos y croen tew sy'n ei gadw'n gyfan er ei fod yn cael ei drafod.

Trosglwyddo

Gall y feirws gael ei ledaenu gan wenyn llawndwf drwy ddwyn ac, i raddau llai, drwy ddrifftio. Gall breninesau hefyd drosglwyddo'r feirws i'w hepil drwy eu hwyau, a gall gael ei ledaenu rhwng gwenyn yn y nythfa dwy'r llwybr ysgarthion i'r geg.  Gall y feirws barhau'n hyfyw mewn mêl neu baill am fis ac, felly, gellir ei drosglwyddo drwy symud fframiau rhwng nythfeydd.

Triniaeth 

Dylai'r nythfa allu delio â'r haint heb ymyrraeth ond, os bydd y clefyd yn parhau, mae nifer bach o opsiynau rheoli ar gael. Gall helpu i dynnu'r rhan fwyaf o'r crwybrau heintiedig a rhoi crwybrau glân yn eu lle.Yn achos nythfeydd sydd â heintiau 'sacbrood' parhaus, gall cyflwyno brenhines ifanc i'r nythfa neu gawellu'r frenhines bresennol am 10-14 diwrnod er mwyn ysgogi saib magu byr helpu i dorri llwybr trosglwyddo posibl y feirws o'r frenhines i'r mag; gan atal larfâu o'r oedran pan fônt yn agored i'r feirws rhag cael eu hailheintio. 

Chalkbrood

Achosir 'chalkbrood' gan ffwng a elwir yn Ascosphaera apis. Mae'r ffwng yn tyfu orau ar dymereddau ychydig islaw'r tymheredd magu gorau a dyna pam mae 'chalkbrood' yn aml yn cael ei gysylltu â mag oeredig. Mae 'chalkbrood' yn lladd larfâu heintiedig a gall arwain at leihad yn nifer y gwenyn a faint o fêl a gynhyrchir, ond fel arfer nid yw'n arwain at farwolaeth nythfa. 'Chalkbrood' yw un o'r tri chlefyd mwyaf cyffredin yn y DU (y clefydau eraill yw 'sacbrood' a syndrom gwiddon parasitig).

Achos 

Pan gânt eu llyncu gan larfa, mae'r sborau ffyngaidd yn egino yng nghanol y perfedd ac yn cynhyrchu myselia. Myselia yw'r term torfol am grwpiau o hyffâu, sef rhwydwaith o edau ffwng a gynhyrchir gan y ffyngau, y mae'n eu defnyddio i fwyta. Y myseliwm sy'ngyfrifol am atgynhyrchu ac mae'n ffurfio cyrff hadol, a fydd yn cynhyrchu rhagor o sborau. Mae'r sborau sy'n egino ym mherfedd y larfa yn cynhyrchu ensymau sy'n niweidio'r larfa, gan achosi iddo farw. Yna, mae'r myselia yn torri drwy'r cwtigl ac mae'r larfa yn troi'n sbyngaidd ac yn wyn, i ddechrau, ac yna'n galed ac yn debyg i sialc

Adnabod arwyddion 'chalkbrood'

Caiff larfâu sydd wedi'u heintio â 'chalkbrood' eu gorchuddio â ffwng gwyn, gwlanog i ddechrau ac, yna, byddant yn sychu ac yn crebachu i ffurfio mymïaid nodweddiadol sy'n edrych yn debyg i sialc. Fel rhai anhwylderau mag eraill, gall fod capiau wedi'u tyllu. Bydd gwenyn gweithgar yn tynnu'r capiau a'r celloedd sydd wedi'u heintio â 'chalkbrood', gan greu patrwm mag afreolaidd neu ‘bot pupur’. Yn aml, mae larfâu heintiedig yn cymryd ffurf chweonglog y gell ei hun cyn crebachu, pan all y gwenyn eu tynnu o'r crwybr.

Ceir mymïaid 'chalkbrood' a dynnwyd gan y gwenyn gweithgar ar yr astell neu y tu allan i'r fynedfa. Maent yn nodedig ond gellid eu cymysgu â llwydni. Fodd bynnag, pan gaiff ei rwbio rhwng dau fys, bydd paill wedi llwydo yn chwalu'n hawdd, ond ni fydd mymi 'chalkbrood' yn gwneud hynny ac mae'n anodd ei wasgu rhwng dau fys.

Er i'r larfâu gael eu heintio yn ystod camau cynnar bywyd, ni fyddant yn dangos arwyddion tan ychydig iddynt gael eu capio neu hyd at ddau ddiwrnod ar ôl hynny. Bydd gwenyn gweithgar yn tynnu'r capiau a'r mwyafrif o'r celloedd heintiedig ac, felly, mae'n bosibl mai dim ond cyfran fach o'r haint fydd i'w gweld.

Mae saethau yn cyfeirio at dair cell agored mewn ffrâm o larfâu wedi'u capio yn bennaf. Y tu mewn i'r celloedd, ceir gweddillion larfaol gwyn sydd wedi crebachu i waelod y celloedd. Mae nifer mawr o fymiaid 'chalkbrood' gwyn a llwyd i'w gweld ar y llawr y tu allan i gwch gwenyn wedi'i heintio.

Trosglwyddo

Gall pob mymi 'chalkbrood' gynhyrchu miliynau o sborau heintus sy'n glynu wrth y celloedd magu, cydrannau'r cwch a gwenyn llawndwf. Er na all gwenyn mêl llawndwf gael eu heintio, gallant drosglwyddo'r pathogen yn y cwch gwenyn ac i nythfeydd eraill. Mae rhannu bwyd rhwng gwenyn llawndwf yn ei gwneud yn bosibl i sborau ffyngaidd gael eu cludo gan wenyn sy'n chwilio am fwyd a'u trosglwyddo wedyn i larfâu sy'n agored i'r haint. 

Caiff y sborau, sy'n heintus iawn, eu lledaenu gan wenyn gweithgar sy'n dwyn ac yn drifftio a gan gyfarpar neu gynhyrchion cwch gwenyn megis cwyr, mêl neu baill sydd wedi'u heintio. Mae sborau 'chalkbrood' yn wydn a gallant barhau yn yr amgylchedd am 15 mlynedd.

Triniaeth 

Nid oes unrhyw driniaethau penodol ar gael ar gyfer 'chalkbrood' ond awgrymir y gall cyflwyno breninesau newydd o stoc wahanol fod o fudd i nythfeydd sy'n dioddef oherwydd heintiau mynych neu ddifrifol, am fod rhai straeniau o wenyn mêl, yn naturiol, yn gallu gwrthsefyll 'chalkbrood' yn well.

Mae technegau rheoli i leihau lefelau haint â 'chalkbrood' yn cynnwys cadw cychod gwenyn yn lân, newid crwybrau storio a magu o leiaf bob tair blynedd a sicrhau bod cychod gwenyn yn sych ac wedi'u hawyru'n dda. Yn ystod y gwanwyn a'r haf, gall gwneud mynedfa'r nythfa yn fwy er mwyn sicrhau ei bod wedi'i hawyru'n well, helpu. Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, gallai lleihau maint y siambr fagu helpu i reoli 'chalkbrood'.Mae sborau 'chalkbrood' yn parhau yn arbennig o dda mewn paill. Felly, gallai tynnu paill wedi'i storio o gychod gwenyn heintiedig a darparu amnewidyn protein helpu i ostwng lefelau haint mewn nythfa heintiedig.

Syndrom gwiddon parasitig

Achosir syndrom gwiddon parasitig gan widdonyn Varroa, Varroa destructor, ar y cyd â feirws adenydd wedi'u hanffurfio. syndrom gwiddon parasitig, a elwir hefyd yn varroosis, yw un o'r tri chlefyd mwyaf cyffredin yn y DU (y clefydau eraill yw 'sacbrood' a 'chalkbrood').

Achos

Pan fydd gwiddonyn Varroa yn bwyta mag sy'n datblygu, mae'n gweithredu fel fector ar gyfer trosglwyddo feirysau, yn arbennig feirws adenydd wedi'u hanffurfio. Fel arfer bydd gwenyn unigol a gaiff eu heintio â Varroa wrth iddynt ddatblygu yn goroesi nes iddynt ymddangos, ond byddant yn dioddef niwed ffisiolegol yn wenyn llawndwf, megis hyd oes byrrach, pwyso llai ar ôl iddynt ddod allan o'r gell a bod yn fwy agored i heintiau. 

Wrth i nythfeydd gael eu heintio'n fwyfwy â gwiddon, mae lefelau feirws adenydd wedi'u hanffurfio yn cynyddu yn y nythfa. Ar lefelau uchel, mae'r feirws yn lladd chwilerod ac yn arwain at adenydd wedi'u hanffurfio mewn gwenyn llawndwf. Mae'r cyflwr hwn yn arwydd bod y nythfa yn marw.

Adnabod arwyddion syndrom gwiddon parasitig

O ganlyniad i golli chwilerod, caiff patrwm mag ‘pot pupur’ afreolaidd ei greu. Wrth i fag farw, mae'n bosibl na fydd digon o wenyn ifanc yn datblygu i ofalu am y mag. Felly, mae'n bosibl y bydd mag wedi'i esgeuluso i'w weld. Hefyd, mae'n bosibl na fydd digon o wyau na chamau magu cynnar.

Bydd gwenyn ag adenydd wedi'u hanffurfio ac abdomenau byrrach yn dod yn fwy cyffredin wrth i lefelau'r feirws gynyddu a bydd nifer mawr o widdon Varroa i'w gweld ar wenyn llawndwf, gwenyn gweithgar a chwilerod gwenyn gormes ac ar lawr y cwch gwenyn.  Bydd annormaleddau mag megis 'baldbrood', sypiau o fag ‘sy'n ymddangos’ wedi'i esgeuluso a marw, sy'n aml wedi'i afliwio'n frown ac wedi'i ganibaleiddio'n rhannol gan y gwenyn i'w gweld.

Dengys ffrâm fagu â phatrwm mag afreolaidd, chwilerod marw ac wedi'u canibaleiddio, capiau wedi'u cnoi, arwyddion syndrom gwiddon parasitig.

Triniaeth 

Mae trin ac atal syndrom gwiddon parasitig yn gofyn am reoli gwiddon Varroa drwy gydol y flwyddyn. Ceir triniaethau a thechnegau hwsmonaeth sy'n effeithiol o ran cadw lefelau gwiddon islaw trothwy lle y gallant niweidio nythfeydd. I gael gwybodaeth fwy cynhwysfawr am syndrom gwiddon parasitig a sut i'w atal, darllenwch ein taflen gynghorol, 'Rheoli Varroa’. 

Anhwylderau eraill ymhlith mag 

I gael gwybodaeth am anhwylderau mag cyffredin eraill, gweler ein ffeithlen, ‘Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mel ac anhwylderau mag cyffredin eraill’