Mae Varroa destructor yn bla hysbysadwy sy'n effeithio ar nythfeydd gwenyn mêl. Gallwch gofnodi presenoldeb Varroa yn eich cychod gwenyn drwy fynd i'n tudalen Rhoi Gwybod am Varroa. Mae'r dudalen we ar Varroa yn rhoi crynodeb o fioleg a chylch bywyd Varroa.
Mae ein taflen gynghorol ar Reoli Varroa, yn edrych yn fanwl ar fioleg Varroa, y dulliau o fonitro Varroa a'r gwahanol ffyrdd o reoli Varroa. Mae'r daflen hon yn nodi'r holl blaleiddiad sydd ar gael i'w defnyddio yn y DU, yn ogystal â thechnegau y gellir eu defnyddio i reoli poblogaethau gwiddon.
Am fod gwenyn yn cael eu hystyried yn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, rhaid i wenynwyr gadw dogfennaeth sy'n cynnwys manylion cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol a roddwyd i nythfeydd am o leiaf bum mlynedd, p'un a yw'r nythfa dan sylw yn dal i fod ym meddiant y gwenynwr hwnnw ai peidio neu p'un a yw wedi marw yn ystod y cyfnod hwnnw ai peidio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen we ar feddyginiaethau gwenyn, neu lawrlwythwch ein ffeithlen ar feddyginiaethau gwenyn. Gellir lawrlwytho copi o'r cofnod o roi meddyginiaethau milfeddygol yma.
Hefyd, mae gennym amrywiaeth o ffeithlenni sy'n darparu gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:
- monitro Varroa mewn cychod gwenyn;
- defnyddio'r dull tynnu mag gwenyn gormes i reoli gwiddon;
- defnyddio'r dull heidio artiffisial i reoli gwiddon;
- defnyddio'r dull dal brenhines i reoli gwiddon;
- monitro ymwrthedd i blaleiddiaid ymhlith gwiddon.
Mae ein oriel gyfryngau yn cynnwys lluniau o widdon Varroa a'r niwed a achoswyd gan Varroa a all fod yn ddefnyddiol i nodi arwyddion gwiddon.
Cysylltwch â’ch arolygydd gwenyn lleol: manylion cyswllt cyffredinol yr UWG ac arolygwyr gwenyn lleol (Cymru, Lloegr a'r Alban); ceir ffynhonnell arall o gyngor arbenigol am ddim yma.