Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cacynen goes felen

Mae'r dudalen hon yn rhoi esboniad byr o gefndir a chylchred bywyd cacynen felyngoes. Os ydych yn credu eich bod wedi gweld cacynen felyngoes, ewch i'r dudalen ‘Rydych yn credu eich bod wedi gweld cacynen felyngoes, felly?’. Os hoffech ddysgu mwy am rôl Timau Cacwn Asia, sut maent yn gweithio gyda ni er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a nodi achosion posibl o weld cacwn melyngoes, a sut i ddod o hyd i'ch Tîm Cacwn Asia lleol, ewch i'n tudalen Rôl Timau Cacwn Asia. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am achosion o weld cacynen felyngoes a gadarnhawyd yn y DU yn 2024, ewch i'r dudalen Y Diweddaraf am Gacwn 2024.

Cefndir

Cafodd Vespa velutina, a elwir hefyd yn gacynen felyngoes (cacynen Asia yn flaenorol) ac sy'n frodorol i Asia, ei chyflwyno drwy ddamwain i Ewrop. Cadarnhawyd ei bod yn bresennol yn Ewrop am y tro cyntaf yn Lot-et-Garonne yn Ne-orllewin Ffrainc yn 2004. Credid iddi gael ei mewnforio mewn llwyth o grochenwaith o Tsieina ac ymsefydlodd yn gyflym gan ledaenu i lawer o ardaloedd yn Ffrainc. Ers mis Rhagfyr 2023, mae cacwn menyngoes wedi ymsefydlu yn Ffrainc, Sbaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Portiwgal, Yr Eidal, Y Swistir, Yr Almaen a Jersey. Mae'r gacynen yn ysglyfaethu amrywiaeth eang o bryfed gan gynnwys gwenyn mêl. Mae'n peri risg i amrywiaeth infertebratau mewn ardaloedd lle y ceir dwyseddau uchel o nythod a gallant beri risg i iechyd unigolion sydd ag alergedd i bigiadau cacwn neu gacwn meirch.

Yn 2016, canfuwyd cacynen felyngoes yn y DU am y tro cyntaf, yn Tetbury. Ar ôl 10 diwrnod o chwilio dwys, canfuwyd y nyth ac fe'i dinistriwyd yn ddiweddarach. Mewn blynyddoedd dilynol, cafwyd achosion eraill o weld cacwn melyngoes gyda chamau yn cael eu cymryd i ganfod a dinistrio nythod, a nodir ar ein tudalen Achosion hanesyddol o Gacwn sydd wedi ymsefydlu yn y DU. Yn 2023, cofnododd y DU nifer digynsail o achosion o gacwn melyngoes a oedd wedi ymsefydlu yn y DU. Mae ein tudalen Y Diweddaraf am Gacwn melyngoes 2023 yn nodi llinell amser yr achosion hyn.

Golwg

Mae cacynen felyngoes yn llai na chacynen Ewrop, Vespa crabro, sy'n frodorol i'r DU. Mae cacwn melyngoes gweithgar llawndwf tua 25 mm o hyd tra bod cacwn Ewrop gweithgar yn tueddu i fod tua 30 mm o hyd. Gall breninesau cacwn melyngoes fod hyd at 30 mm o hyd tra gall breninesau cacwn Ewrop fod hyd at 35 mm o hyd. Abdomen du yn bennaf sydd gan gacwn melyngoes, ar wahân i'r pedwerydd segment abdomenol sydd â chylch melyn. Mae ganddi goesau melyn a wyneb oren hefyd.

Cylchred bywyd y gacynen felyngoes, Vespa velutina nigrithorax, gydag amseroedd bras ar gyfer y DU.

Rydym yn dibynnu ar aelodau o'r cyhoedd i allu adnabod cacwn melyngoes a rhoi gwybod os byddant yn eu gweld er mwyn ein helpu i atal y pla goresgynnol hwn rhag lledaenu. Mae'n bwysig gallu gwahaniaethu rhyngddi a phryfed brodorol, megis cacynen Ewrop, er mwyn atal adroddiadau anghywir o ganlyniad i gamadnabod cacwn melyngoes. Ceir gwybodaeth am sut i adnabod cacynen felyngoes a gwahaniaethu rhyngddi a rhywogaethau brodorol o'r adnoddau canlynol:

Cardyn Post

Cylchred bywyd

Gwanwyn

Ar ôl gaeafgysgu, bydd y frenhines yn ymddangos ac yn chwilio am ffynhonnell briodol o fwyd melys sy'n llawn carbohydradau er mwyn magu'r nerth i allu dechrau adeiladu nyth gychwynnol fach, a elwir yn nyth sylfaenol. Yn ystod y broses o adeiladu'r nyth, bydd ar ei phen ei hun ac yn agored i niwed ond bydd yn dechrau dodwy wyau er mwyn cynhyrchu gweithlu'r dyfodol. Wrth i'r nythfa a'r nyth dyfu, caiff nyth fwy o faint ei sefydlu o amgylch y nyth gychwynnol neu bydd yn adleoli ac yn ei chreu yn rhywle arall; dyma'r nyth eilaidd.

Haf

Yn ystod yr haf, gall un nythfa cacwn melyngoes gynhyrchu 6,000 o unigolion, ar gyfartaledd, mewn un tymor. O fis Gorffennaf ymlaen, bydd ysglyfaethu gwenyn mêl gan gacwn melyngoes yn dechrau ac yn cynyddu tan ddiwedd mis Tachwedd. Gwelir cacwn sy'n ysglyfaethu cychod gwenyn yn hofran y tu allan i fynedfa cwch gwenyn, gan aros am wenyn fforio sy'n dychwelyd. Ymddygiad “ysglyfaethu” nodweddiadol cacwn yw hwn. Pan fyddant yn dal gwenynen sy'n dychwelyd, byddant yn tynnu'r adenydd, y pen a'r abdomen ac yn dychwelyd i'r nyth â'r thoracs sy'n llawn protein er mwyn bwydo'r mag. Caiff y larfâu sy'n datblygu eu bwydo â deiet llawn protein sy'n cynnwys pryfed a ffynonellau eraill o brotein sy'n cael eu hel gan y cacwn gweithgar.

Hydref

Yn ystod yr hydref, mae gweithgareddau'r nyth yn symud o chwilio am fwyd ac ehangu'r nyth i atgenhedlu. Yn Ffrainc, canfuwyd y gall nythod gynhyrchu hyd at 350 o ddarpar freninesau a deirgwaith gymaint o gacwn gwryw. Ar ôl y cyfnod paru, bydd y breninesau newydd eu ffrwythloni yn gadael y nyth ac yn dod o hyd i rywle addas i aeafu. Bydd yr hen frenhines yn marw, gan adael y nyth i edwino a marw. O'r darpar freninesau a ryddheir gan y nyth, dim ond nifer bach a fydd yn llwyddo i baru a goroesi'r gaeaf. Y gwanwyn canlynol, bydd y frenhines sefydlu yn dechrau adeiladu ei nythfa newydd a bydd y broses yn ailddechrau.

Cylchred bywyd gacynen felygoes (Vespa velutina nigrithorax), gydag amseriadau bras ar gyfer y DU

Monitro am gacwn melyngoes

Gwyliwch y pryfed peillio yn eich ardal a dewch i arfer â'u hadnabod. Gosodwch abwyd mewn man lle y gellir ei weld yn yr haul e.e. ar soser ger ardal eistedd a gwyliwch gacwn, clêr, cacwn meirch a glöynnod byw.  Gwyliwch beth sy'n bwyta yn dawel. Pan fydd pryfed yn bwyta mae'n hawdd tynnu llun. Am ragor o wybodaeth am fonitro ar gyfer cacwn melyngoes a chyfarwyddiadau ar sut i wneud trap monitro, gweler ein ffeithiau ar fonitro cacwn melyngoes.

Rhoi gwybod am achosion o weld cacwn melyngoes

Os ydych yn credu eich bod wedi gweld cacynen felyngoes, rhowch wybod amdani gan ddefnyddio ap 'Asian Hornet Watch' sydd ar gael am ddim ar gyfer  Android ac iPhone, neu ar y ffurflen hysbysu ar-lein. Rhaid cynnwys ffotograff a nodi ble y gwnaethoch ei gweld. Dylech hefyd gynnwys eich manylion cyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Am ragor o wybodaeth am sut i roi gwybod os byddwch wedi gweld cacynen felyngoch, ewch i'n tudalen ‘Rydych yn credu eich bod wedi gweld cacynen felyngoes, felly’.

Rhagor o Wybodaeth

Weithiau mae cacynen felyngoes, Vespa velutina, yn cael ei chymysgu â chacynen Fawr Asia (Vespa mandarinia). Dysgwch fwy yn y blog hwn gan Defra.

Cyflwyniad ar Fioleg Cacynen Felyngoes a luniwyd gan Fera Science Ltd ac a gyflwynir gan Kirsty Stainton.

Yellow-legged Hornet Awareness and Identification for Pest Controllers.

Mae Cynllun Wrth Gefn, sy'n nodi'r camau sydd i'w cymryd gan Defra a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i achosion o gacwn melyngoes a amheuir neu a gadarnhawyd yng Nghymru a Lloegr ar gael yn: Cynllun Wrth Gefn Penodol i Bla: Cacynen Goesfelen Asia (Vespa velutina nigrithorax)

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr achosion presennol o gacwn melyngoes, ewch i'r dudalen newyddion treigl Gov.uk

Cyflwyniad ar Fioleg Cacynen Felyngoes a luniwyd gan Fera Science Ltd ac a gyflwynir gan Kirsty Stainton.