Cocynau gwyfynod cwyr (wedi deor)
Bioleg
Mae benywod yn dodwy wyau mewn agendorau a bylchau y tu mewn i'r cwch lle y byddant yn aros y tu allan i gyrraedd gwenyn magu. Ar ôl i'r larfâu ddeor, maent yn mynd ati ar unwaith i chwilio am ddiliau i fwyta ynddynt. Mae'r coesau thorasig yn weladwy ar unwaith ac yn ddatblygedig ac wrth i'r larfa fwyta a thyfu maent yn datblygu gyda choesau'r abdomen yn dod yn fwy amlwg pan fydd y larfa yn fwy na 3 diwrnod oed, fwy neu lai. Mae pa mor gyflym y mae'r larfa yn tyfu yn dibynnu'n ar y tymheredd a'r cyflenwad o fwyd. O dan amodau delfrydol, gall pwysau'r larfa ddyblu bob dydd yn ystod y 10 diwrnod cyntaf.
Mae larfa gwyfyn cwyr mawr yn bwrw hengroen 7 gwaith tra bydd yn datblygu. Mae'r rhan fwyaf o'r twf a'r cynnydd mewn maint yn digwydd yn ystod y 2 instar olaf. Mae datblygiad larfaol yn para rhwng 6 a 7 wythnos ar dymheredd o 29° – 32° C o dan amodau llaith iawn. Wrth i larfa gwyfyn cwyr mawr aeddfedu, bydd yn tyfu i tua 20mm o hyd a bydd ei gorff yn troi'n llwyd gyda tharian brothorasig frown sydd â band llydan yn rhedeg ar ei thraws.
Mae larfâu llawndwf gwyfynod cwyr mawr yn turio i mewn i bren ac yn aml yn gwneud pantiadau siâp bad yng nghorff neu fframiau'r cwch. Ar ôl dod o hyd i le yn y cwch i chwilera, mae'r larfa yn dechrau gweu cocŵn o edafedd sidan, y maent yn ei gysylltu â'r pantiadau a duriwyd ganddynt. Mae cam datblygu gwyfynod cwyr mawr yn amrywio o 6 i 55 diwrnod, yn dibynnu ar ffactorau megis tymheredd.
Mae gwyfynod llawndwf yn tyfu i 15 mm o hyd â lled adenydd o 31 mm, ar gyfartaledd. Mae'r adenydd yn llwyd ond mae traean ôl yr adain, sydd wedi'i guddio fel arfer, o liw efydd.
Galleria mellonella, y Gwyfyn Cwyr Mawr
Niwed i nythfeydd
Gallai larfâu'r ddwy rywogaeth ddifrodi diliau drwy fwyta'r cwyr, er na allant fyw ar gwyr yn unig; dangoswyd bod larfâu sy'n cael eu bwydo â chwyr gwenyn yn rhoi'r gorau i ddatblygu. Maent yn dibynnu ar amhureddau eraill yn y cwyr – yn arbennig cocynau mewn hen ddiliau mag. Mae ôl sidan gwyn a adewir gan larfâu sy'n turio sy'n symud o dan gapanau mag gwenyn mêl yn un arwydd amlwg o bla gwyfynod cwyr. Mewn achosion eithafol, caiff y dil cyfan ei ddifa, gan adael màs matiog o sidan, baw ('frass') a malurion eraill.
Mae larfâu llawndwf gwyfynod cwyr mawr yn turio i mewn i waith coed ac yn aml yn gwneud pantiadau siâp bad mewn bocsys magu, llofftydd, byrddau gorchudd a fframiau. Ar ôl dod o hyd i le i chwilera, mae'r larfa yn dechrau gweu edafedd i wneud y cocŵn, y gellir ei weld wedi'i gysylltu â'r pantiadau a duriwyd. Os edrychwch yn ofalus, byddwch yn gweld nifer mawr o gocynau wedi'u crynhoi mewn mannau o amgylch ymyl nyth y gwenyn.
Gwyddom fod gwyfynod cwyr yn achosi 'Bald Brood', sy'n anhwylder cyffredin yn y nythfa. Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen 'Anhwylderau Eraill ymhlith Mag'.
Larfa gwyfyn cwyr yn turio ar draws capanau mag wedi'i selio
Rheoli
Fel arfer, ni fydd nythfeydd cryf da yn goddef pla gwyfynod cwyr ac, fel arfer, nid yw'n broblem yn y maes mewn nythfeydd iach. Fodd bynnag, mae'n broblem naill ai mewn nythfeydd gwan neu mewn cychod lle mae nythfeydd wedi marw neu mewn diliau wedi'u storio. Yn y maes, dylid cadw cychod mor gryf ac iach â phosibl, ni ddylid gadael diliau yn gorwedd o amgylch y wenynfa a dylid cael gwared ar nythfeydd marw gan y bydd hyn yn denu gwyfynod cwyr (hylendid sylfaenol mewn gwenynfa). Gellid gosod blychau sy'n cynnwys nifer bach o wyfynod cwyr ar nythfeydd cryf er mwyn eu glanhau ond ni ellir trin diliau sy'n cynnwys llawer iawn o wyfynod yn effeithiol a dylid eu llosgi. .
A oes rhywogaethau eraill o wyfynod cwyr?
Gelwir y gwyfyn, Aphomia sociella yn “wyfyn y gwenyn” ac mae'n debyg iawn i'r gwyfyn cwyr mawr. Mae'r corff a'r adenydd blaen yn frowngoch ac mae smotyn du amlwg ar adain flaen y gwyfyn benyw. Mae'r isrywogaeth hon yn cael ei denu gan aroglau nythod rhywogaethau o gacwn a phicwn, gan fwyta cynhyrchion gwastraff y larfâu, yn ogystal â chacwn a phicwn llawndwf. Mae larfâu yn tyfu i 24-30 mm o hyd ac yn troi'n lliw melyn amlwg. Maent yn creu twneli o edafedd sidan drwy'r nyth ac, o ganlyniad, mae'n bosibl y bydd cacwn yn ffoi o'u nyth yn ystod plâu trwm.
Deunydd darllen pellach
- Ceir rhagor o wybodaeth am fioleg a nodweddion adnabod pob ffurf ar y gwyfyn cwyr ar wefan COLOSS.
- Ffeithlen yr UWG ar Wyfynod Cwyr